S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle i wylwyr leisio barn am S4C a dysgu mwy am y newid i ddigidol

17 Tachwedd 2009

Bydd cyfle i wylwyr yn ardal trosglwyddydd Moel y Parc yng ngogledd ddwyrain Cymru leisio’u barn am S4C a dysgu mwy am y newid i ddigidol mewn digwyddiad arbennig a gynhelir gan S4C yng Nghlwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug, heno, nos Fawrth, 17 Tachwedd am 7.00pm.

Cadeirydd S4C, John Walter Jones, fydd yn llywio’r Noson Gwylwyr, sy’n rhan o ymgyrch gyfathrebu S4C am y newid i ddigidol. Bydd Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Rhian Gibson a Chyfarwyddwr Cyfathrebu’r Sianel, Garffild Lloyd Lewis hefyd yn bresennol.

Mae digwyddiadau tebyg wedi’u cynnal yng Nghaerfyrddin ac yn fwyaf diweddar, Ynys Môn. Mae sioeau sgiliau syrcas Ymlaen â’r Sioe S4C hefyd yn ymweld â Dinbych ar 21 Tachwedd a Wrecsam ar 22 Tachwedd. Am fwy o wybodaeth ewch i s4c.co.uk/digidol neu ffoniwch Wifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141.

Cynhelir Noson Gwylwyr Yr Wyddgrug wrth i amserlen hydref S4C barhau. Yn ogystal â ffefrynnau megis y rhaglen arddio Byw yn yr Ardd, mae sawl cyfres newydd, gan gynnwys cystadleuaeth i ffeindio ffarmwr gorau Cymru yn Fferm Ffactor a drama newydd a leolir yn Llandudno, Blodau.

Meddai Cadeirydd S4C, John Walter Jones: “Rydym yn estyn croeso cynnes iawn i bobl i ddod i’r noson i leisio’u barn am S4C a gofyn unrhyw gwestiynau am y newid i ddigidol, sydd eisoes wedi dechrau yn yr ardal.

“Gyda chymaint o newidiadau mawr ar droed, ynghyd ag amserlen gyffrous S4C ar gyfer yr hydref, bydd digon o bynciau trafod difyr ac rydym yn edrych ymlaen at gael cwrdd â’n gwylwyr wyneb-yn-wyneb.”

Am fwy o fanylion, ffoniwch 01352 754212 neu e-bostiwch nosongwylwyr@s4c.co.uk.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?