S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pobol y Cwm yn cystadlu am wobr

20 Tachwedd 2009

Mae'r opera sebon Pobol y Cwm, a gynhyrchir gan BBC Cymru Wales ac a ddarlledir ar S4C, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Iechyd Meddwl y Cyfryngau. Bydd yn cystadlu yn erbyn dramâu poblogaidd EastEnders, Doctors a Hollyoaks yng nghategori Sebon a Drama Parhaus ar deledu.

Daw’r enwebiad am y stori lle gwelwyd Catrin Mara yn portreadu iselder ôl-enedigol ei chymeriad, Nesta.

Mae Gwobrau Iechyd Meddwl y Cyfryngau yn dathlu’r portread o ing meddwl a’r modd y caiff iechyd meddwl ei gofnodi yn y byd darlledu. Mae’r gwobrau yn cynnwys trawsdoriad eang o raglenni gan gynnwys dogfen a drama radio a theledu, cyfryngau pobl ifanc, newyddion a sebon.

Yn ôl Cynhyrchydd y Gyfres, Ynyr Williams:

“Mae’n hynod o bwysig i ni fod yn driw i fywyd go iawn ac adlewyrchu yn gyfrifol beth yw gwir natur iechyd meddwl.

“Mae’r enwebiad yma yn gydnabyddiaeth i Pobol y Cwm a rydym yn falch iawn o fod mewn cwmni mor ddethol.”

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo yn Llundain Ddydd Mawrth, 24 Tachwedd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?