S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sioe Nadolig Cyw a’i ffrindiau

26 Tachwedd 2009

Bydd Sioe Nadolig Cyw a’i ffrindiau 2009 yn teithio i ddeuddeg o leoliadau ledled y wlad yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr i ddathlu’r Nadolig.

Bydd llu o wynebau cyfarwydd yn ymddangos yn y sioe, gan gynnwys Sali Mali, Twm Tisian, Huwi Stomp a Betsan Brysur o’r gyfres feithrin Cei Bach, y direidus Rapscaliwn fydd yn ymddangos ar Ffilm Cyw dros y Nadolig, Cyw ei hun ac wrth gwrs, Siôn Corn.

Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C, “Mae gwasanaeth meithrin Cyw ar S4C wedi cydio yn nychymyg plant Cymru ers ei lansio yn 2008, ac mae’r Daith Nadolig yn gyfle arbennig i’r gwylwyr ieuengaf o bob cwr o’r wlad gwrdd â rhai o’u hoff gymeriadau – gan gynnwys Cyw ei hun.”

Bydd pris mynediad o £3.00 i bawb, yn blant ac oedolion, a bydd system o archebu tocynnau ymlaen llaw yn weithredol trwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141 (cost galwad cenedlaethol).

Dyma fanylion lleoliadau’r Daith:

 

Tachwedd 26                      Theatr Hafren, Y Drenewydd     

Tachwedd 27                      Venue Cymru, Llandudno

Tachwedd 28                     Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Fôn

Rhagfyr 4                             Neuadd Goffa Aberaeron

Rhagfyr 5                             Neuadd Cross Hands

Rhagfyr 6                             Ysgol Esgob Llandaf, Caerdydd

Rhagfyr 11                           Y Stiwt, Wrecsam

Rhagfyr 12                           Y Ganolfan, Porthmadog

Rhagfyr 13                           Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau

Rhagfyr 17                           Theatr Beaufort, Glyn Ebwy

Rhagfyr 18                           Theatr Taliesin, Abertawe

Rhagfyr 19                           Theatr Gromlech, Crymych

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?