S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ffilm Nadolig S4C yn ennill Gwobr BAFTA Plant

29 Tachwedd 2009

 Mae ffilm deulu S4C, Rhestr Nadolig Wil, wedi ennill gwobr yn y categori Drama yng Ngwobrau Plant BAFTA.

Fe enillodd y ffilm y wobr mewn seremoni arbennig yn Llundain nos Sul 29 Tachwedd, yn wyneb cystadleuaeth gref gan gyfres The Sarah Jane Adventures o’r sianel CBBC ymhlith eraill.

Roedd hi’n noson gofiadwy i S4C, gan i Cyw, y gwasanaeth ar gyfer y plant lleiaf, dderbyn enwebiad hefyd, ar gyfer Sianel y Flwyddyn.

Mae Rhestr Nadolig Wil, a gynhyrchwyd gan Boomerang, wedi ei enwebu’n ddiweddar ar gyfer gwobrau KidScreen i’w cynnal yn Efrog Newydd ym mis Chwefror 2010.

Mae’r ffilm hwyliog hon yn dilyn anturiaethau bachgen llawn dychymyg o’r enw Wil (Aron Cynan) sy’n cwrdd â Siôn Corn (Iwan John) wrth i’w sled lanio ar fferm y teulu.

Ysgrifennwyd y ffilm a’r gerddoriaeth gan y cerddorion a'r cyfansoddwyr Caryl Parry Jones a Christian Phillips, a'r cyfarwyddwr ydy Dafydd Wyn. Mae'r cast yn cynnwys actorion adnabyddus fel Dewi ‘Pws’ Morris, John Ogwen, Ryland Teifi, Rhian Jones, Arwyn Davies a Beth Robert.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: "Mae Rhestr Nadolig Wil

yn ffilm yn llawn hiwmor a dychymyg gyda sgript a sgôr gerddorol gofiadwy. Mae’r wobr bwysig hon yn gydnabyddiaeth yn y Deyrnas Unedig o ragoriaeth S4C ym maes cynhyrchu rhaglenni plant. Rydym yn llongyfarch pawb sydd yn ymwneud â’r cynhyrchiad hwn ar noson gofiadwy i S4C."

DIWEDD

Nodiadau i’r golygydd

• Mae S4C wedi cyhoeddi yn ddiweddar ei chynlluniau i ymestyn ei darpariaeth ar gyfer yr ystod oedran saith-arddegau cynnar, gyda rhaglenni ychwanegol ar y penwythnosau.

• Mae S4C wedi gwerthu ei rhaglenni plant i fwy na 100 o wledydd ledled y byd.

• S4C yw’r ail fuddsoddwr unigol mwyaf mewn rhaglenni plant ym Mhrydain ar ôl y BBC.

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?