S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwogion y byd adloniant ar S4C dros y Nadolig

10 Rhagfyr 2009

Drama gomedi, sydd wedi’i chyd-ysgrifennu gan un o sêr ac awduron Gavin and Stacey, Ruth Jones a’r awdures Catrin Dafydd, a ffilm afaelgar ar gyfer dydd Nadolig, am ddau eicon y byd adloniant, Ryan Davies a Ronnie Williams, yw dau o atyniadau’r ŵyl ar S4C.

Bydd cast cryf yn chwarae amrywiaeth ddifyr o gymeriadau lliwgar sy’n gweithio a theithio ar y trên rhwng Abertawe a Paddington, Llundain yn y ffilm Ar y Tracs, sy’n cael ei darlledu ar S4C am 9.00pm ar 20 Rhagfyr.

Bydd y ffilm Ryan a Ronnie am 9,00pm nos Nadolig yn tywys y gwylwyr ar daith go wahanol, nôl i’r 1970au wrth i ddrama afaelgar Meic Povey ail-greu dyddiau ola’r bartneriaeth gomedi chwedlonol. Mae’r ffilm yn cynnwys perfformiadau grymus gan Aled Pugh fel Ryan Davies a Rhys ap Hywel fel Ronnie Williams.

Mae arlwy S4C dros yr ŵyl hefyd yn cynnwys adloniant cerddorol poblogaidd, gyda chyngherddau lle y gallwch fwynhau doniau disglair Only Men Aloud, Rhydian Roberts o’r X Factor, Ysgol Glanaethwy a Bryn Terfel. Bydd yna ddigon o chwaraeon hefyd - gemau rygbi ‘derby’ o’r radd uchaf a gornestau lleol pêl droed.

Y Cyflwynydd tywydd Siân Lloyd ac Angharad Mair o Wedi 7 yw dwy o’r wynebau adnabyddus fydd yn ymddangos mewn cystadleuaeth goginio gyda’r cogydd Dudley Newbery, a ddarlledir ar 27 a 29 Rhagfyr. Ceir mwy o adloniant gyda’r digrifwr Tudur Owen yn ei sioe sgwrsio ac yn rhifyn Nadolig o’i sioe gomedi sy’n cael ei chyflwyno gan hunaniaeth arall Tudur, y plismon. PC Leslie Wynne.

I’r gwylwyr ifanc dangosir ffilm ar ddydd Nadolig gydag arwr y plant, Cyw, yn ogystal â rhifynnau Nadoligaidd o lawer o ffefrynnau.

Daw wythnosau o baratoi yn ardal Bethlehem yn Sir Gaerfyrddin i ben llanw yn Seren Bethlehem ar noswyl Nadolig, gyda pherfformiad o stori’r geni gan y gymuned leol.

Bydd tîm Wedi 7 yn croesawu’r Flwyddyn Newydd ar S4C, ac wrth edrych ymlaen at 2010 bydd S4C yn darlledu nifer o gyfresi newydd. Bydd Ras yn Erbyn Amser yn dilyn ymdrechion arwrol y cyflwynydd teledu anturus, Lowri Morgan i gystadlu yn un o rasys anodda’r byd, Marathon y Jyngl. Bydd y gyfres Tir Cymru yn edrych ar dirwedd Cymru yng nghwmni Iolo Williams, tra bydd Tocyn yn mynd â ni ar daith i’r gwledydd Celtaidd yng nghwmni Aled Samuel ac Alex Jones.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Bydd rhywbeth at ddant pawb ar S4C y Nadolig hwn, gyda phecyn llawn o ddrama o’r ansawdd uchaf, comedi, coginio, cerddoriaeth, a rhaglenni i blant a chwaraeon yn dangos y gorau o dalentau Cymru.”

Mae isdeitlau Saesneg ar gael ar raglenni S4C ac mae’r rhan fwyaf o sioeau hefyd i’w gweld yn fyw ac ar alw, ar-lein ar s4c.co.uk/clic.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?