S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gêm Bristol City a Chaerdydd yn y Cwpan FA yn fyw ar S4C

11 Rhagfyr 2009

 Bydd S4C yn darlledu’r gêm rhwng Bristol City a Chaerdydd yn nhrydedd rownd y Cwpan FA yn fyw o gae Ashton Gate.

Bydd y gêm ddarbi fawr yn fyw ar S4C ar brynhawn Sadwrn, 2 Ionawr am 12.15pm, wrth i’r gyfres Sgorio ddilyn hynt a helynt y clybiau Cymreig yng nghystadleuaeth y Cwpan FA, a noddir gan Eon.

Mae darlledu’r gêm hon yn bluen arall yn het y gyfres Sgorio sydd eisoes yn dangos cynghrair La Liga yn Sbaen, Serie A yn Yr Eidal, Uwch Gynghrair y Principality a gemau rhyngwladol Cymru yn ei rhaglenni ar nosweithiau Llun a Sadwrn.

Fe fydd isdeitlau Saesneg ar gael ar gyfer y gêm a bydd y gêm ar gael i’w gwylio’n fyw ar wefan S4C, s4c.co.uk

Bydd uchafbwyntiau’r gêm drydedd rownd rhwng Leicester City ac Abertawe yn ogystal ag uchafbwyntiau Bristol City v Caerdydd i’w gweld ar Sgorio Cymru yn ddiweddarach yr un nos am 21.30 ar S4C.

Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar Sky 134 a Freesat 120 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Meddai Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C, Geraint Rowlands, “Rydym yn falch o gael ychwanegu gemau’r Cwpan FA sy’n ymwneud â thimau Cymru i’n harlwy o ddigwyddiadau a chwaraeon byw. Mae pêl-droed yn chwarae rhan ganolog yn ein gwasanaeth chwaraeon ac mae cynnwys cystadleuaeth mor fawr â’r Cwpan FA, a noddir gan Eon, yn ychwanegiad o bwys.”

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?