S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Aled yn cipio teitl Ffermwr Gorau Cymru cyfres Fferm Ffactor

16 Rhagfyr 2009

 Aled Rees, ffermwr o Aberteifi, sydd wedi cipio teitl ‘Ffermwr Gorau Cymru’ cyfres Fferm Ffactor S4C, gan hawlio’r brif wobr - cerbyd 4x4 Isuzu Rodeo Denver newydd sbon.

Daeth Aled, sy’n 38 oed, i’r brig ar ôl creu argraff ar feirniaid swyddogol y gyfres, Dai Jones a’r Athro Wynne Jones, trwy gydol y gystadleuaeth. Yn y rownd olaf, llwyddodd unwaith eto i blesio’r beirniaid wrth iddo fynd ati i annerch Gweinidog Materion Gwledig y Cynulliad, Elin Jones gyda’i sylwadau ar sut gellir mynd at i sicrhau dyfodol cadarn i’r diwydiant amaeth yng Nghymru.

Yn y rownd olaf bu’n rhaid i Aled frwydro’n galed am ei safle yn erbyn cystadleuaeth gref gan Cefin Evans o Aberystwyth a Gareth Roberts o Bwllheli.

“Roedd Cefin a Gareth yn gymeriadau cryf iawn hefyd, felly roedd yn anodd rhagweld pwy fyddai’r beirniaid yn dewis. Rwyf wedi bod yn hapus gyda’r perfformiadau i gyd yn y tasgau cant-y-cant a does dim un dasg lle rwy’n edrych nôl ac yn meddwl y gallen i fod wedi gwneud unrhyw beth yn wahanol,” meddai Aled.

“Mae’n deimlad anhygoel i gael ennill y gystadleuaeth yma. Mae’n golygu gymaint i fi ac i’n nheulu - maen nhw wedi bod yn gefn mawr i fi dros y misoedd diwethaf ac wedi caniatáu i fi allu cystadlu bob wythnos tra bo nhw’n edrych ar ôl y fferm.

Mae Aled wedi cystadlu ar Fferm Ffactor ochr-yn-ochr â rhedeg ei fferm, ac mae’n cyfaddef ei fod yn mynd i weld eisiau’r gystadleuaeth o hyn ymlaen.

“Bydde’n i’n gwneud y cyfan eto, heb os! Sai eisiau i’r holl beth orffen, mae wedi bod yn brofiad anhygoel.”

Un o uchafbwyntiau’r gyfres i Aled oedd cwrdd â ffrindiau newydd - ei gyd-gystadleuwyr, y beirniaid a’r criw cynhyrchu.

“Rydyn ni wedi dod yn agos iawn ar ôl treulio wythnosau yng nghwmni ein gilydd ac mae’r tasgau hefyd wedi rhoi cyfle i ni ddod i adnabod ein gilydd yn dda- yn enwedig wrth weithio mewn parau neu fel rhan o dîm. Rydyn ni gyd yn mynd i fod yn ffrindiau am byth gan ein bod ni wedi mwynhau’r profiad unigryw yma yng nghwmni ein gilydd,” ychwanega Aled.

Bydd cyfle i wylwyr S4C fwynhau holl uchafbwyntiau’r gyfres mewn rhaglen arbennig a ddarlledir nos Fawrth, 22 Rhagfyr am 9.30pm.

Mae Fferm Ffactor yn chwilio am gystadleuwyr brwdfrydig i gystadlu yn y gyfres nesaf. Am fwy o fanylion, ewch i’r wefan: s4c.co.uk/ffermffactor

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?