S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Alun Evans yn ennill Cân i Gymru 2010

28 Chwefror 2010

   Alun Evans – sy’n cael ei nabod fel Alun Tan Lan - enillodd Cân i Gymru 2010 yn Venue Llandudno nos Sul 28 Chwefror gyda'i gân ‘Bws i'r Lleuad’.

Mae Alun yn hanu o Landdoged, Ddyffryn Conwy ac mae'n gerddor adnabyddus dan yr enw Alun Tan Lan. Enillodd e wobr gwerth £10,000 ar ôl cyfansoddi'r gân fuddugol. Mae Alun yn gobeithio defnyddio'r wobr i adeiladu stiwdio recordio yn ei ardd.

Tomos Wyn, sydd hefyd o’r un pentref, oedd yn perfformio’r gân fuddugol ar y noson. Cyfansoddodd Alun y gân ‘Bws i’r Lleuad’ fel demo ar gyfer ei albwm newydd ac mae’n credu mai’r alaw 'catchy' wnaeth apelio at y gynulleidfa.

Meddai Alun, “Dwi’n meddwl mai apêl y gân oedd ei bod yn eitha syml, 'catchy' ac ysgafn. Roedd llais Tomos yn siwtio’r gân ac mae’n dalent ifanc. Wnaeth e dro da arni ac roedd yn brofiad arbennig iddo fe i gamu ar y llwyfan ar ei ben ei hun. Hefyd, mae ei dad yn rhedeg y siop chips lawr yr heol a wnaeth o addo rhoi chips am ddim i fi am weddill fy mywyd pe bawn yn ennill Cân i Gymru!”

Mae Alun yn wyneb adnabyddus i selogion y sin roc a pop gan iddo fod yn aelod o fand Euros Childs a Gorky’s Zygotic Mynci, ac mae bellach yn chwarae’r gitâr i'r grŵp offerynnol newydd, Y Niwl.

Ychwanega Tomos, sy’n 17 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Conwy, “Fel arfer, dwi’n canu hefo côr, felly roedd canu ar ben fy hun yn rhywbeth gwahanol ac yn dipyn o sialens. Roedd buzz anhygoel yn Venue Cymru ac roedd y gynulleidfa yn wych. Daeth bws o gefnogwyr o Landdoged, felly roedd yna ddigon o gefnogaeth ar gael. Dwi ‘di gael negeseuon tecst ac ar Facebook yn fy llongyfarch - mae’n eithaf swreal."

Yn yr ail safle ac yn ennill £2,000 oedd Gai Toms gyda'r gân 'Deffra', a gafodd ei pherfformio gan Estynedig. Jaci Williams ac Aron Elias ddaeth yn drydydd gan gipio'r wobr o £1,500 am y gân 'Gorwel'.

Gallwch lawrlwytho'r caneuon i gyd trwy decstio'r gair Cymru i 80889 i dderbyn dolen lawrlwytho. Cost y neges ydy 50c. Dyma'r telerau ac amodau llawn.

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?