S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn datgelu arlwy etholiad 2010

09 Ebrill 2010

    Bydd rhaglenni Etholiad Cyffredinol 2010 S4C yn mynd i ganol cymunedau Cymru i drin a thrafod y pynciau sy’n berthnasol i bobl ein gwlad.

O dan ymbarél Etholiad 2010, bydd timau o gyflwynwyr, sylwebyddion a gohebwyr yn crwydro i bob cwr o Gymru er mwyn clywed barn yr etholwyr a’r gwleidyddion.

BBC Cymru Wales ac ITV Cymru sy’n darparu’r arlwy gynhwysfawr hon i S4C gydag amrywiaeth o raglenni a fydd yn canolbwyntio ar wahanol ardaloedd, o Gaernarfon a Rhuthun yn y gogledd i Aberystwyth a Machynlleth yn y canolbarth a Llanelli a Phontypridd yn y de.

Meddai Tweli Griffiths, Golygydd Cynnwys Gwleidyddiaeth a Materion Cyfoes S4C: “Mae S4C yn rhoi pwyslais mawr ar hygrededd, arbenigedd, ac awdurdod yn ein gwasanaeth newyddion a materion cyfoes. Fe ddaw ein tîm newyddiadurol a’r safonau gohebu uchaf felly, i’n rhaglenni Etholiad, - a’r sgiliau i wneud yn siŵr fod y gwleidyddion yn ateb y cwestiynau sy’n bwysig i’r etholwyr. Fe fyddan nhw allan yn y gymuned yn sicrhau fod barn pobl Cymru yn cael ei hadlewyrchu yn llawn yn ein rhaglenni.”

Mae’r arlwy’n dechrau nos Lun, 12 Ebrill pan fydd y newyddiadurwraig a sylwebydd gwleidyddol Mai Davies yn Aberystwyth i fesur y pỳls gwleidyddol yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Bydd rhaglenni pellach o Etholiad 2010 yn mynd â Mai i drefi Rhuthun, Llanelli, Pontypridd ac yn olaf, rhaglen fyw gyda chynulleidfa yn y Galeri, Caernarfon.

Mae gan Mai Davies, sy’n wreiddiol o Ben-bre ger Llanelli, ond bellach yn byw yn Abertawe, flynyddoedd o brofiad ym maes newyddiaduriaeth a darlledu ac mae’n gaffaeliad mawr i’r tîm profiadol a dawnus o ddarlledwyr sydd gan S4C.

Meddai Mai Davies: “Dyma fydd yr etholiad mwyaf difyr ers cenhedlaeth. Y tro diwethaf iddo fod mor agos â hyn oedd dros 30 mlynedd yn ôl. Does neb yn gallu darogan beth fydd yn digwydd, felly fe fydd yn gyffrous tan y munud olaf un. Fe fydd cyflwyno rhaglenni Etholiad 2010 S4C yn brofiad difyr iawn gan y byddwn yn siarad gyda phleidleiswyr sydd heb benderfynu pwy fydd yn cael eu pleidlais ac yn gwahodd aelodau a chyn aelodau seneddol y gwahanol bleidiau i gyflwyno adroddiadau am eu gwrthwynebwyr gwleidyddol.”

Yn ogystal â mynd ar drywydd amrywiaeth o straeon ar ddechrau ail wythnos yr ymgyrchu, fe fydd rhaglen Etholiad 2010 ddydd Llun, 12 Ebrill yn lansio cyfres o adroddiadau mewn cyfres o adroddiadau, lle mae rhywun a fu’n amlwg mewn un blaid yn dadansoddi ymgyrchoedd pleidiau eraill.

Y cyntaf o’r adroddiadau yma yw adroddiad Dafydd Wigley, Plaid Cymru am ymgyrch y Democratiaid Rhyddfrydol. Yn y rhaglenni sy’n dilyn, fe fydd y cyn AS gyda’r Ceidwadwyr Rod Richards yn dadansoddi ymgyrch Plaid Cymru, Betty Williams o’r Blaid Lafur yn edrych ar y Torïaid a Ruth Parry o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn pwyso a mesur ymgyrch y Blaid Lafur.

Yn ystod yr wythnosau nesaf hefyd fe ddarlledir rhifynnau arbennig o’r rhaglen Pawb a’i Farn pan fydd y gwleidyddion yn wynebu’r etholwyr ym Methesda, Machynlleth a Phontardawe.

Bydd y rhaglenni Newyddion a CF99 hefyd yn dilyn yr holl straeon perthnasol yn Etholiad Cyffredinol 2010.

Mae rhaglenni Etholiad 2010 S4C yn dechrau yn Aberystwyth nos Lun, 12 Ebrill, 9:30pm S4C. Bydd manylion llawn am holl raglenni Etholiad 2010 ar wefan S4C, s4c.co.uk

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?