S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Clic yn mynd ar BBC iPlayer

27 Mai 2010

  Bydd gwasanaeth gwylio ar-alw gwefan S4C Clic ar gael cyn bo hir ar fersiwn newydd beta o BBC iPlayer sydd wedi ei lansio.

Yn nes ymlaen yn yr haf, bydd gwylwyr yn gallu defnyddio dolennau cyswllt ar BBC iPlayer i raglenni S4C, ITV, Channel 4, Five a SeeSaw. Rydym yn anelu i gael dolen gyswllt i raglenni S4C erbyn diwedd mis Mehefin. Mae’r rhan fwyaf o raglenni S4C ar gael i’w gweld ar-alw ar Clic am 35 diwrnod ar ôl eu darlledu.

Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, “Mae’r datblygiad hwn yn adlewyrchu amcan S4C i sicrhau ei bod yn darparu gwasanaethau sy’n berthnasol ac yn adlewyrchu’r defnydd cynyddol o wasanaethau ar-lein. Mae S4C yn falch o fod yn partneru gyda’r BBC ar y fenter hon.”

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?