S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Croesawu Stwnsh ar-lein

20 Ebrill 2010

 Wrth i raglen olaf Planed Plant ddod i ben am 6.00 nos Wener 23 Ebrill, bydd S4C yn gwahodd gwylwyr i droi at www.s4c.co.uk/stwnsh i gael y cip cyntaf ar y gwasanaeth newydd fydd yn dod yn ei le, Stwnsh.

Bydd y darllediad byw ugain munud o hyd ar wefan Stwnsh yn llawn hwyl, chwerthin, gemau, canu, dawnsio, cystadlaethau a stŵr wrth i ni gwrdd â chyflwynwyr y gwasanaeth newydd.

Os ydych chi rhwng 7 a 13 oed ewch draw i wefan Stwnsh www.s4c.co.uk/stwnsh am y cyfle i ennill iPod touch, Nintendo DSi, Teledu Clirlun, Playstation 3 a llawer mwy cyn 5.00 nos Wener. Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod y digwyddiad ar-lein.

Bydd grwp dawns Jukebox Juniors o Gaerdydd, sêr y gyfres Got to Dance ar Sky One, hefyd yn ymuno yn yr hwyl gan osod tasg i’r cyflwynwyr - Geraint, Tudur, Lois, Anni, Eleri, Owain, Ant ac Al - i berfformio dawns Stwnsh unigryw ar ddiwedd y darllediad.

Bydd Stwnsh yn dechrau ddydd Llun 26 Ebrill o 4.00-6.00 gydag amrywiaeth o raglenni newydd ynghyd â’r rhaglen newydd sbon ar fore Sadwrn, Stwnsh Sadwrn ar 1 Mai.

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?