S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwobr chwaraeon arbennig i S4C

13 Hydref 2010

 Mae S4C wedi ennill gwobr mawreddog o fewn y diwydiant darlledu chwaraeon yng Ngwobrau Georges Bertellotti Golden Podium, a gynhaliwyd yn ystod cynhadledd Sportel ym Monaco.

Daeth S4C i’r brig yn y categori Y Trêl Orau yn y seremoni gyda thrêl a ddefnyddiwyd i hyrwyddo rhaglenni criced a rygbi’r Sianel ym mis Mehefin.

Mae’r hysbyseb yn hyrwyddo darllediadau’r Sianel o gemau criced ugain pelawd Morgannwg ac uchafbwyntiau rygbi o daith haf Cymru i Seland Newydd.

Gwelwyd dyfarnwyr criced yn ail greu’r Haka ond yn defnyddio arwyddion dyfarnwyr criced wrth herio rhai o wynebau adnabyddus carfan rygbi Cymru, gan gynnwys Adam Jones, Jamie Roberts ac Alun-Wyn Jones.

Yn y categori llynedd, hyrwyddo ar sgrin o ddarllediadau Eurosport o’r US Open enillodd yr un wobr.

Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C, “Mae’r gwobrau yma yn uchel eu clod o fewn y diwydiant darlledu chwaraeon ac mae’r gydnabyddiaeth i waith hyrwyddo S4C yn arbennig. Mae’r wobr ryngwladol hon yn gwobrwyo dychymyg, sgil ac ymroddiad y talent creadigol sydd wedi gweithio ar y trêl yma.”

Gallwch wylio’r clip ar wefan You Tube

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?