S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ariannu S4C – datganiad mewn ymateb i’r Mesur Cyrff Cyhoeddus

14 Hydref 2010

 Ers 1982 mae ariannu S4C wedi cael ei ymgorffori mewn statud. Mae’r cysylltiad statudol yma wedi sicrhau sefydlogrwydd hir-dymor ac annibyniaeth olygyddol S4C, tra hefyd yn diogelu’r sianel rhag ymyrraeth wleidyddol. Darlledwr gwasanaeth cyhoeddus yw S4C nid Adran o’r Llywodraeth. Dylid ymdrin â S4C yn yr un modd a darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill ac i’r un amserlen.

Drwy symud i sefyllfa lle mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu’r lefel o ariannu, mae’n hanfodol fod yr egwyddor a sefydlwyd ers blynyddoedd o weithredu annibynnol gan ddarlledwyr gwasanaethau cyhoeddus yn dal i gael ei diogelu.

Wrth gwrs, dylai’r cyhoeddiad heddiw gael archwiliad seneddol llwyr a phriodol.

Mae S4C eisoes wedi cynnig i’r Adran Ddiwylliant, Cyfathrebu a Chwaraeon fod Awdurdod y Sianel yn cynnal adolygiad llwyr o’i gweithgareddau.

Cred S4C ei bod yn hanfodol sicrhau gwasanaethau darlledu yn yr iaith Gymraeg i’r dyfodol.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?