S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn croesawu Fforwm y Cynulliad a llythyr y pleidiau

04 Tachwedd 2010

 Bu swyddogion S4C yn bresennol yn Fforwm Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddyfodol y Sianel heddiw, trafodaeth a groesawyd eisoes gan Awdurdod y Sianel.

Mae S4C hefyd wedi croesawu’r ymateb trawsbleidiol ynglŷn â dyfodol y Sianel a fynegwyd yn llythyr arweinwyr y pleidiau yng Nghynulliad Cymru i’r Prif Weinidog David Cameron.

Meddai Cadeirydd Awdurdod S4C John Walter Jones, “Bydd S4C wrth reswm yn barod i chwarae rhan ganolog er mwyn sicrhau bod trefniadaeth y Sianel i’r dyfodol yn ateb gofynion y gwylwyr ar ddechrau’r 21ain ganrif. Ers misoedd rydym wedi pwysleisio pwysigrwydd adolygiad cynhwysfawr o S4C a bydd ffrwyth gwaith Syr Jon Shortridge ar lywodraethiant corfforaethol y Sianel yn cael ei gyhoeddi yn fuan. Mae’n holl bwysig felly fod y broses o adolygu yn parhau.”

“Yn y cyfamser bydd S4C a’r Adran Ddiwylliant, Y Cyfryngau a Chwaraeon yn trafod oblygiadau cyhoeddiad y Gweinidog, Jeremy Hunt ac fel mae arweinwyr y pleidiau yn pwysleisio yn eu llythyr, bydd annibyniaeth S4C fel darlledwr cyhoeddus yn yr iaith Gymraeg yn greiddiol i’r trafodaethau hyn,” meddai.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?