S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Paned i’r bechgyn wrth lansio’u cyfres ar S4C

28 Hydref 2010

 Bydd dau ffefryn Cymraeg yn cydweithio wrth i gwmni te Glengettie noddi cyfres newydd Only Men Aloud ar S4C. (Yn dechrau nos Iau 11 Tachwedd am 21:00).

Wedi ei ffilmio dros dair noson fythgofiadwy yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd, a’r lle yn orlawn bob nos, bydd gan y gyfres restr hir o westeion enwog yn cynnwys Bonnie Tyler, Max Boyce, Julian Lloyd Webber, Only Boys Aloud, dwy o sêr y West End, Kerry Ellis a Katy Treharne, Rebecca Evans, Catrin Finch, y Tri Tenor Cymreig a Shân Cothi. Yn ôl Tim Rhys-Evans, cyfarwyddwr cerdd Only Men Aloud, mae’n ‘adloniant pur ac yn lot fawr o hwyl.’

Mae Only Men Aloud wedi cael llwyddiant ysgubol ers iddynt ennill Last Choir Standing ddwy flynedd yn ôl, drwy eu cyngherddau, eu recordiau a’u hymddangosiadau ar y teledu. Nhw enillodd wobr ‘Albwm y Flwyddyn’ am eu cryno ddisg Band of Brothers yn y Classical Brits eleni. Ond dyma’r tro cyntaf i’r côr serennu yn eu cyfres deledu eu hunain.

Meddai Dawn Macphail, Cyfarwyddwr Gweithredu Optimal, y cwmni sy’n gwerthu gofod ar ran S4C, “Rydym yn hynod o bles i ddechrau’r bartneriaeth hon gyda Glengettie sy’n golygu fod y cwmni yn noddi’r gyfres Only Men Aloud ar S4C. Cryfder unrhyw nawdd o’r math yma yw’r berthynas rhwng y brand a’r rhaglen ac yn yr achos arbennig hwn mae’r uniad yn ddelfrydol.”

Meddai Stacey Moore o Dîm Marchnata Glengettie, “Mae Glengettie yn hapus dros ben i noddi cyfres deledu gyntaf Only Men Aloud. Mae’n rhoi cyfle arbennig i Glengettie weithio ochr yn ochr â ffefryn mawr Cymraeg arall - Only Men Aloud! Mae Glengettie yn falch i fod yn noddwyr y sioe ac i ddathlu pob peth Cymreig.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?