S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Jamie Roberts yn ystyried gadael y Gleision ar ôl graddio

29 Hydref 2010

    Mae canolwr y Gleision a Chymru, Jamie Roberts, wedi datgelu ei gynlluniau i adael Rhanbarth Cymru pan fydd ei gytundeb presennol yn dod i ben yn 2013.

Bydd Jamie yn cadarnhau ei gynlluniau mewn cyfweliad gyda Rhodri Williams ar raglen olaf Rygbi a Mwy ar S4C. Mae Jamie hefyd yn cyfaddef ei fod wrth ei fodd yn chwarae i’r Gleision ar hyn o bryd ond buasai’n hoffi cael blas ar fyw yn Llundain neu Ffrainc yn hwyrach yn ei yrfa.

Mae Rygbi a Mwy yn gyfle i wylwyr ddysgu mwy am eu hoff chwaraewyr rygbi o’r degawdau diwethaf, gan gynnwys Shane Williams, Stephen Jones, Gareth Edwards, Clive Rowlands, Gwyn Jones, Gareth Davies ac Ieuan Evans.

Yn ystod y cyfweliad dadlennol, mae Jamie yn eglur ei fod eisiau aros gyda’r Gleision hyd ddiwedd ei gytundeb pan fydd hefyd yn graddio o’i gwrs meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd cyn ystyried bywyd i ffwrdd o Gaerdydd a Chymru.

Meddai Jamie: “Sai’n gallu gweld fy hunan yn chwarae i Gaerdydd drwy gydol fy ngyrfa. Gobeithio gallai chwarae hyd at ddiwedd fy ngyrfa - pan rwy’n 34 neu 35. Cyn hynny, buaswn wrth fy modd yn blasu bywyd i ffwrdd o Gaerdydd, efallai yn Llundain neu Ffrainc. Ond ar y foment, rwy’n hapus gyda’r Gleision ac yn chwarae i Gymru - bydde fe’n ddwl i adael Cymru ar hyn o bryd.

“Rwy dal yn ifanc a byddai fe’n dda ifi fynd i wahanol lefydd ac ennill profiadau gwahanol, blasu diwylliannau amrywiol ac yn y broses, dysgu mwy amdanaf i fy hun. Fi’n gytundebol i’r Gleision am ddau dymor ar ôl y tymor yma nes ifi raddio. Unwaith ifi orffen, fyddai’n cychwyn pennod newydd yn fy mywyd - gyda chlwb gwahanol o bosib - ond hefyd ar fy ngorau yn chwarae rygbi gobeithio.”

Mae Jamie – Chwaraewyr Gorau Taith y Llewod yn 2009 – wedi colli dechrau’r tymor oherwydd anaf i’w arddwrn. Cadarnhaodd yn ddiweddar ei fod am golli gemau rhyngwladol yr hydref ym mis Tachwedd yn ogystal wrth iddo ganolbwyntio ar ei ffitrwydd. Mae’n disgwyl dychwelyd cyn y Nadolig.

Esbonia: “Ma’r doctor wedi amcangyfrif byddai nôl yn chwarae adeg Nadolig (5 mis ar ôl y llawdriniaeth ar ei arddwrn). Gobeithio byddai’n gallu ymddangos yng ngemau’r Cwpan Heineken ar ddechrau Rhagfyr ond bydd yn anodd iawn dod nôl i’r gemau caled a chorfforol yn syth. Y peth gyntaf fydd yn rhaid ifi wneud yw ennill fy lle nôl yn y tîm. Yn amlwg mae’r bois sy’n chwarae canol cae fel fi - i’r Gleision ac i Gymru - wedi bod yn chwarae’n dda felly bydd yn rhaid ifi weithio’n galetach nag erioed i adennill fy lle.”

Bydd y gwylwyr hefyd yn cael cyfle i weld ochr arall i’r canolwr yn y rhaglen ar S4C. Mae Jamie - cerddor o fri - yn gwireddu uchelgais o’i blentyndod pan fydd yn canu a chwarae’r gitâr mewn stiwdio recordio.

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?