S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Chwilio am dalentau ifanc newydd

05 Tachwedd 2010

   Os gen ti dalent arbennig? Hoffet ti ennill £1,000 i dalu am hyfforddiant ar gyfer dy dalent?

Mae S4C yn chwilio am bobl ifanc talentog rhwng 11 a 15 oed i gystadlu mewn cyfres dalent newydd sbon o’r enw Sawl Seren Sy’ ‘Na? fydd ar S4C yn 2011.

Yn ogystal ag actorion, cantorion a dawnswyr, mae Sawl Seren Sy’ ‘Na? hefyd yn chwilio am dalentau amrywiol fel sgiliau syrcas, chwibanu neu ddweud jôcs. Beth bynnag yw'r dalent, mae croeso i bawb ymgeisio.

Bydd clyweliadau yn cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru rhwng canol Tachwedd a chanol mis Rhagfyr. Yn gyntaf rhaid i bob ymgeisydd gofrestru. Cysylltwch â thîm Sawl Seren Sy’ ‘Na? drwy e-bost sawlseren@avantimedia.tv neu ffonio 01443 688530 am ffurflen gais. Y dyddiad cau yw dydd Gwener 10 Rhagfyr.

Er bod angen i’r cystadleuwyr siarad Cymraeg, mae croeso mawr i ddysgwyr ymuno yn yr hwyl. Rydym ni eisiau rhoi’r cyfle i gymaint â phosib i serennu ar ein llwyfan.

Yn wahanol i raglenni eraill, panel o bobl ifanc fydd yn dewis enillydd Sawl Seren Sy' 'Na? drwy roi sgôr rhwng 1 a 5 seren i bob perfformiad. Y perfformiad sy’n casglu'r mwyaf o sêr fydd yn ennill.

Ar ôl y clyweliadau, bydd panel o arbenigwyr yn dewis 64 o berfformwyr i fod yn y gyfres. Bydd y gyfres yn cael ei ffilmio rhwng diwedd mis Ionawr a dechrau Mawrth 2011 ac yn cael ei dangos ar S4C yn hwyrach yn y flwyddyn.

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?