S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

CD Carolau Gobaith ar werth nawr

20 Rhagfyr 2010

Mae cryno ddisg o berfformiadau terfynol cystadleuwyr Carolau Gobaith ar S4C ar werth fel anrheg arbennig i’r hosan Nadolig.

Gallwch brynu’r CD mewn siopau Cymraeg, ar-lein ar wefan Sain a drwy lawr lwytho ar wefan iTunes a bydd yr holl arian a gasglir yn cael ei rannu rhwng yr elusennau Tŷ Gobaith ac Amser Justin Time.

Roedd y gyfres Carolau Gobaith, sydd ar gael i wylio eto ar wefan S4C - s4c.co.uk/clic, yn gweld chwe wyneb cyfarwydd yn dysgu sut i ganu cyn iddynt berfformio carol Nadolig o flaen cynulleidfa fyw. Cafodd y chwech eu rhannu’n ddau dîm gyda chantorion o fri yn mentora.

Syniad y tenor Rhys Meirion oedd y gyfres yn wreiddiol wrth iddo feddwl am ffyrdd o godi arian ar gyfer Tŷ Gobaith. Mae hosbis Tŷ Gobaith – gyda chanolfannau yng Nghroesoswallt a Chonwy – yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd plant sydd â salwch terfynol.

Shân Cothi, y cyflwynydd a’r berfformwraig sy’n mentora’r ail dîm, wnaeth sefydlu elusen Amser Justin Time er cof am ei gŵr, Justin Smith, wnaeth farw o ganser y pancreas.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?