S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Stwnsh ar y we!

27 Hydref 2010

   Bydd cyflwynwyr Stwnsh yn mentro i’r we yn syth ar ôl rhaglenni nos Iau (28 Hydref) i ddathlu hanner tymor gyda darllediad byw ugain munud ar s4c.co.uk/stwnsh.

Cewch llond hwyl, chwerthin, gemau, canu, dawnsio, cystadlaethau a stŵr wrth i Geraint, Tudur, Lois, Anni, Eleri ac Owain gyhoeddi pwy sydd wedi dod i’r brig yng nghystadleuaeth arbennig yr wythnos.

Yn ystod wythnos hanner tymor, bydd cyfle i wylwyr Stwnsh (i blant rhwng 7 a 13 oed yn unig) ennill tocynnau i gemau rygbi'r hydref yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd. Mae Cymru’n wynebu Awstralia, De Affrica, Ffiji a Seland Newydd gydol Tachwedd.

Bydd y enillwyr gemau Awstralia, De Affrica a Ffiji yn cael eu cyhoeddi ar nos Iau mewn rhaglen arbennig sy'n fyw ar y we yn unig o 18:00. Yn ystod y rhaglen hwnnw, bydd cyfle i’r gwylwyr anfon negeseuon yn fyw i'r gwesteion Tara Bethan a'r athletwr Rhys Williams. Bydd enillwyr tocynnau Seland Newydd yn cael eu cyhoeddi ar Stwnsh dydd Gwener.

Mae Stwnsh yn parhau bob dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 16:00 ac 18:00. Bob bore Sadwrn, cewch fwynhau hwyl, sbri a miri Stwnsh Sadwrn yng nghwmni Ant, Al a Lois.

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?