S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwefan tywydd newydd S4C

28 Hydref 2010

   Boed law neu hindda, ar ddydd Llun 1 Tachwedd bydd S4C yn lansio ei gwefan tywydd newydd.

Bydd y wefan, sy’n cael ei rheoli gan gwmni Tinopolis, yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y tywydd yng Nghymru mewn mwy o fanylder nag erioed o’r blaen. Bydd y wefan yn ychwanegu at y gwasanaeth bwletinau tywydd cyson sydd ar y sgrin.

Mae S4C yn gweithio â chwmni Weather Central, sy’n darparu gwasanaeth tywydd i 21 o wledydd ar hyd a lled y byd. Ond, S4C fydd y cwmni darlledu cyntaf ym Mhrydain i ddefnyddio’r gwasanaethau sy’n gallu rhagolwg y tywydd i fanylder o 1km.

Meddai Adam Salkeld o Tinopolis, “Ar wefan newydd S4C gallwch ddefnyddio’r cod post ar gyfer unrhyw ardal yng Nghymru a chael y rhagolygon tywydd ar gyfer yr union stryd, gymdogaeth, dref neu bentref. Mae’r gwasanaeth yma yn ddefnyddiol iawn os ydych yn trefnu barbeciw yn yr haf neu am wybod pryd i amddiffyn eich planhigion rhag y rhew.”

Mae’r gwasanaeth yn cael ei lansio mewn da bryd ar gyfer Noson Tân Gwyllt. Defnyddiwch y gwasanaeth i weld os fydd glaw yn taflu dŵr oer ar eich coelcerth, neu wynt cryf yn amharu ar drywydd eich rocedi.

Meddai Chip Mobely, o gwmni Weather Central, “Yn ystod fy ymweliad â Chymru gallwn ni ddim peidio sylwi ar ba mor gyfnewidiol gall y tywydd fod. Gallai fod yn braf mewn un man ond yn glawio yn y pentref nesa! Dyma pam rydyn ni’n falch o’r cyfle i weithio â S4C a Tinopolis i ddarparu’r dull arloesol hwn o gyflwyno’r tywydd.”

diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?