S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Côr Rhos yn ymuno â chystadleuaeth Côr Cymru 2011

17 Chwefror 2011

 Mae beirniaid rhyngwladol Côr Cymru 2011 wedi gwahodd Côr Meibion Rhosllannerchrugog i gystadlu yn y rownd gynderfynol.

Byddan nhw’n cystadlu yn yr adran Corau Meibion wedi i gôr Bechgyn Bro Tâf dynnu yn ôl o’r gystadleuaeth.

Bydd y rowndiau cynderfynol yn cael eu cynnal yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ar benwythnos 4 i 6 Mawrth, 2011. Bydd uchafbwyntiau'r cystadlu i'w gweld ar S4C ar y penwythnos canlynol, 12 a 13 Mawrth.

Mae tocynnau ar gyfer y pum rownd gynderfynol ar gael yn rhad ac am ddim gan gwmni Rondo, un ai trwy ffonio 029 2022 3456 neu e-bostio corcymru@rondomedia.co.uk.

Ewch i s4c.co.uk/corcymru am ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?