S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Penodi wyth i Fforwm Cyfryngau Newydd S4C

09 Chwefror 2011

 Penodwyd wyth o bobl yn aelodau Fforwm Cyfryngau Newydd S4C a sefydlwyd mewn cyfarfod arbennig yn Aberystwyth ym mis Ionawr

Yn ei adroddiad diweddar i’r Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) cyhoeddodd y Sianel ei bod am roi pwyslais mawr ar arloesi ym maes gwasanaethau newydd. Crëwyd y fforwm i gynnig syniadau i S4C fel bo’r angen wrth i’r Sianel ddatblygu ei strategaeth ym maes Cyfryngau Newydd.

Mae’r wyth apwyntiwyd i gyd yn brofiadol ym maes Cyfryngau Newydd. Yr wyth, a ddewiswyd o 21 o ymgeiswyr, yw Carl Morris, Iwan Standley, Marc Webber, Rhys Miles Thomas, Llinos Thomas Davies, Rhodri ap Dyfrig, Peter Watkins Hughes a Daniel Glyn.

Meddai Dyfrig Jones, aelod o Awdurdod S4C a chadeirydd y fforwm newydd: “Mae'r cyfnod lle mae modd i ni sôn am gyfryngau 'newydd' yn prysur ddod i ben. Mae technoleg ryngweithiol yn rhan annatod o fywyd bob dydd miloedd o bobl erbyn hyn. Nod y fforwm yma ydi edrych ar sut y gall S4C gyfrannu at dwf technoleg newydd drwy gyfrwng y Gymraeg a cheisio llunio strategaeth a fydd yn ein llywio drwy'r blynyddoedd cyffrous o'n blaenau.

“Rydym yn hynod falch bod cymaint o ddiddordeb wedi ei ddangos yn y fforwm ac rydym am ddiolch i bawb fynychodd y cyfarfod yn Aberystwyth a’r nifer wnaeth geisio am aelodaeth o’r fforwm. Mae syniadau a chefnogaeth yr wyth ddewisiwyd yn mynd i fod yn hanfodol bwysig i S4C wrth i’r Sianel symud ymlaen ym maes Cyfryngau Newydd.”

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?