S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cofio 70 mlynedd ers Blitz Abertawe

16 Chwefror 2011

Bydd rhifyn arbennig o Wedi 7 yn cofio 70 mlynedd ers y Blitz dinistriol a chwalodd Abertawe yn 1941.

Bydd y rhaglen nos Wener, 18 Chwefror am 7.00pm, yn darlledu’n fyw o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe, ble bydd Angharad Mair yn cwrdd â rhai o drigolion y ddinas sy’n cofio’r tridiau erchyll pan syrthiodd y bomiau.

Ymysg y rhai fydd yn adrodd eu straeon personol o’r cyfnod fydd Miriam Evans o Dreboeth a gysgododd yn festri Capel Noddfa yn ystod y cyrchoedd a Sally Hughes a gafodd ei dal yn ninistr y bomiau yng nghanol y ddinas.

Dros gyfnod o dridiau ym mis Chwefror 1941, bomiwyd Abertawe yn ddidrugaredd gan awyrennau Luftwaffe Hitler. Lladdwyd 230 o drigolion y ddinas a chafodd dros ddeng mil o adeiladau eu dinistrio neu eu difrodi. Roedd yr ardal gyfan wedi ei hysgwyd gan sŵn iasol y seiren rybudd, dwndwr dwfn yr awyrennau a’r ffrwydradau dinistriol.

Cawn glywed rhagor o’r hanes gan Dr John Davies, yr Athro Gareth Williams a Dylan Rees o Brifysgol Fetropolitan Abertawe a fydd yn esbonio cyd-destun hanesyddol y Blitz, a sut gafodd y ddinas ei hail-adeiladu o’r rwbel.

Hefyd, bydd Côr Meibion Clwb Rygbi Treforys ymuno â ni i berfformio dehongliad teimladwy o gerdd Waldo Williams Y Tangnefeddwyr, a gafodd ei hysbrydoli gan Blitz Abertawe.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?