S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi rhaglenni Dydd Gŵyl Ddewi a’r gwanwyn

23 Chwefror 2011

 Mae S4C heddiw (Dydd Mercher 23 Chwefror) wedi cyhoeddi uchafbwyntiau eu rhaglenni Dydd Gŵyl Ddewi a rhaglenni’r Gwanwyn gyda’r pwyslais ar ddrama, rhaglenni dogfen ac adloniant.

Bydd ymgyrch 2011 S4C ar y sgrin – Calon Cenedl – yn parhau gan ganolbwyntio yn ystod y cyfnod ar gymuned, diwylliant ac iaith.

Meddai Geraint Rowlands, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae 2011 wedi dechrau yn arbennig o dda i S4C. Bu bron miliwn o wylwyr y tiwnio’i fewn i raglenni S4C yn ystod un wythnos benodol ym mis Ionawr a hyd yma mae ffigyrau gwylio oriau brig S4C 4,000 o wylwyr i fyny ar yr un cyfnod y llynedd.

“Enillodd ffilm Ble Mae Cyw? wobr yng ngŵyl ffilm a theledu i blant KidScreen yn Efrog Newydd ac mae 13 o raglenni S4C wedi cael eu henwebu yng Ngŵyl y Cyfryngau Celtaidd i’w chynnal yn Stornoway fis Ebrill. Mae drama ar S4C – cyfresi fel Alys sy’n cael ei darlledu ar nos Sul ar hyn o bryd – yn dal i gael cymeradwyaeth arbennig o dda.”

Uchafbwynt Dydd Gŵyl Ddewi ar S4C fydd rhaglen awr yn datgelu gwir wyneb yr arwr cenedlaethol Owain Glyndŵr am y tro cyntaf.

Bydd y rhaglen Wyneb Glyndŵr yn mynd â ni ar siwrnai gyffrous i ail-greu wyneb y Tywysog Cymreig o’r Oesoedd Canol gan ddefnyddio’r dechnoleg gyfrifiadurol ddiweddara’.

Fe ddechreuodd Owain Glyndŵr wrthryfel yn erbyn Coron Lloegr yn 1400 a hawlio mai fe oedd Tywysog Cymru - ond does neb yn gwybod sut roedd yn edrych. Mae’r rhaglen ddogfen ar S4C ar 1 Mawrth ar fin newid hynny.

Wedi’i chyflwyno gan yr actor Hollywood adnabyddus, Julian Lewis Jones, mae’r dirgelwch yn dechrau’n agos adre' yng Nghorwen a Chaerdydd, ond mae rôl arbenigwr yn America a darganfyddiad rhyfeddol mewn hen archif ym Mharis yn rhoi blas rhyngwladol i’r siwrnai.

Hefyd ar Ddydd Gŵyl Ddewi bydd y gyfres 100 Lle yn ymweld â Tŷ Ddewi yn ogystal â Hwlffordd a Chastell Penfro yng nghwmni Aled Samuel a’r hanesydd Dr John Davies. Mae’r gyfres yn seiliedig ar y llyfr ‘Cymru, y 100 lle i’w gweld cyn marw’ gan John a’r ffotograffydd Marian Delyth, cyfrol a enillodd deitl ‘Llyfr y Flwyddyn’ yn 2010.

Bydd digon o chwerthin ar S4C ar Ddydd Gŵyl Ddewi hefyd gyda dwy raglen gomedi newydd sbon. Gêm banel yw .Cym ac mae’n sicr o godi gwên wrth dynnu coes a dychanu pethau sy’n ddigon od am Gymru a’r Cymry. Yn dilyn .Cym, bydd ffilm gartŵn unigryw, Y Teulu Tomos, stori teulu cyffredin iawn sy'n rhannu tŷ cyffredin iawn gyda babi, robot a thaid anghyffredin.

Mae nos Sul ar S4C yn nodweddiadol ers tipyn am gyfresi drama o’r safon uchaf. Ar ôl llwyddiant Pen Talar, Teulu ac Alys, bydd drama newydd Porthpenwaig - helyntion teulu’n byw mewn pentref glan-y-môr - yn cychwyn ganol Ebrill.

Cyfres gomedi wedi ei hanelu at gynulleidfa ifanc fydd Ddoe Am Ddeg fydd yn cychwyn ar S4C ganol Mawrth tra bydd Sioe Tudur Owen yn cynnig comedi o fath gwahanol i gynulleidfa o 200 yn y Galeri, Caernarfon a’r gwylwyr adre.

Bydd cystadleuaeth flynyddol cyfansoddi caneuon Cân i Gymru yn dod yn fyw o Bafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid nos Sul 6 Mawrth. Bydd rowndiau cynderfynol prif gystadleuaeth gorawl Cymru Côr Cymru yn cael eu dangos mewn cyfres ar S4C gan ddechrau nos Sadwrn 12 Mawrth. Bydd y ffeinal yn cael ei darlledu’n fyw o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar nos Sul 10 Ebrill.

Yn y gyfres newydd Byw yn y Byd cawn ddilyn Russell Jones ar antur i Affrica.

Yn ystod ei daith mi fydd yn ymweld â sawl prosiect elusennol sy’n addysgu pobl sut i fyw yn hunan gynhaliol, gan obeithio eu paratoi nhw’n well ar gyfer goroesi yn ystod cyfnodau hir o sychdŵr. Mae’r canolfannau arbennig yn dangos i bobl sut i dyfu llysiau a magu ieir a geifr ar gyfer eu bwyta a’u gwerthu. Bydd Russell hefyd yn dychwelyd gyda chyfres newydd o Byw yn yr Ardd gyda thymor prysuraf garddio yn agoshau.

Mae yna gymeriadau lliwgar yn ein hanes ni i gyd a thrwy ddilyn eu stori gallwn ddod a hanes Cymru yn fyw. Dyma fydd yn digwydd yn y gyfres newydd Perthyn, wrth i wyth o bobl ddilyn taith i ddysgu rhagor am eu cyndeidiau. Byddwn yn datgloi cyfrinachau’r gorffennol, yn datrys dirgelion ac yn clywed am ambell sgandal!

A ninnau’n byw mewn cyfnod lle mae arbed arian yn hanfodol, nod y gyfres Mwy am Lai bydd helpu bobol i gael y gwerth gorau am eu harian. Cymru fel gwlad sy’n llwyddo allforio’i chynnyrch i bod rhan o’r byd fydd pwnc trafod yr actor adnabyddus Steffan Rhodri wrth gyflwyno’i gyfres O Gymru Fach.

Bydd y gyfres gylchgrawn sy’n bwrw golwg ar y celfyddydau Pethe yn dychwelyd ym mis Mawrth a’i chwaer gyfres Pethe Hwyrach ym mis Ebrill.

Mae’r tenor Wynne Evans yn fwyaf adnabyddus erbyn hyn fel Gio Compario o hysbysebion Go Compare, sydd wedi ennill y teitl ‘The most irritating advert’ am yr ail flwyddyn yn olynol. Mewn rhaglen ym mis Ebrill Cyngerdd Wynne Evans – Gio Compario, bydd Wynne yn cyflwyno caneuon o’i CD gyntaf sy’n cael ei rhyddhau ar gyfer Sul y Mamau.

Math arall o gerddoriaeth geir yn y gyfres Bandit yn Gigio fydd yn dod o wahanol leoliadau ar draws Cymru dros chwe wythnos o fis Mawrth.

Gyda phriodas y flwyddyn yn digwydd ddydd Gwener 29 Ebrill, bydd S4C yn dathlu gyda’r Tywysog William a Kate Middleton mewn rhaglen arbennig Y Briodas Frenhinol.

Ym myd chwaraeon bydd Y Clwb Rygbi ar S4C yn dod a thair gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn fyw i’r gwylwyr - yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn 26 Chwefror, Iwerddon ddydd Sadwrn 12 Mawrth a Ffrainc ddydd Sadwrn 19 Mawrth. Bydd tîm Sgorio yn darlledu uchafbwyntiau prawf mawr cyntaf Gary Speed fel rheolwr newydd tîm pêl droed Cymru - y gêm ragbrofol Euro 2012 yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn 26 Mawrth yn Stadiwm y Mileniwm.

Ddeunaw mis ar ôl iddi gwblhau Marathon y Jyngl yn yr Amazon, bydd y cyflwynydd Lowri Morgan yn wynebu her arall yn Ras yn Erbyn Amser. Y tro hwn bydd Lowri’n gwario wyth diwrnod yn rasio 350 milltir yn hinsawdd lem yr Arctic wrth geisio cwblhau ras arteithiol y 6633 Ultra.

Gyda’r refferendwm ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei gynnal ddydd Iau 3 Mawrth bydd rhaglenni newyddion a materion cyfoes S4C yn rhoi sylw i’r drafodaeth yn y dyddiau cyn y pleidleisio. Bydd y canlyniadau i’w cael yn fyw ar S4C o 10.30am ymlaen y bore canlynol yn Refferendwm 2011.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?