S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y Diwrnod Mawr wedi ei henwebu am wobr RTS

24 Chwefror 2011

Mae’r gyfres i blant meithrin Y Diwrnod Mawr wedi ei henwebu am wobr yng nghategori plant Gwobrau Rhaglenni RTS.

Mae’r rhaglen wedi ei henwebu am y rhaglen sy’n dilyn stori Siôn Pyrs, bachgen pum mlwydd oed o Bentrefoelas. Cynhyrchwyd y rhaglen gan Cynhyrchiadau Ceidiog ac fe’i darlledwyd fel rhan o wasanaeth meithrin S4C Cyw. Mae’r gyfres Y Diwrnod Mawr yn dilyn 26 o blant - un ymhob rhaglen - ar ddiwrnod mawr yn eu bywydau.

Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal ar 15 Mawrth yng ngwesty’r Grosvenor House, Llundain.

Mae’r rhaglen sydd wedi ei enwebu yn dilyn Siôn Pyrs wrth iddo baratoi i werthu ei oen, John Pari, ym marchnad Rhuthun. Mae rhaglenni eraill yn y gyfres yn cynnwys merch yn edrych ymlaen i groeswu ei mam adref ar ôl treulio amser fel nyrs gyda’r fyddin yn Afghaniastan, a bachgen sydd wrth ei fodd yn go-cartio yn paratoi i gystadlu am y tro cyntaf.

Meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C: “Mae Y Diwrnod Mawr yn gyfres arloesol yn y Gymraeg ac yn rhoi cyfle i blant ifanc gael blas ar raglenni ffeithiol a dogfen, rhaglenni sy’n cynnig profiadau cofiadwy ac ysgytwol ar adegau. Mae’r enwebiad yma yn ychwanegu at y llu o anrhydeddau mae Y Diwrnod Mawr eisoes wedi ei derbyn ac yn profi fod cynlluniau S4C o ran buddsoddi ym myd teledu a gwasanaethau i blant yn allweddol ac yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’r iaith a bywyd diwylliannol Cymru.

“Mae’n gydnabyddiaeth cenedlaethol o’r hyn mae S4C a’r cynhyrchwyr yng Nghymru yn gyflawni ac mae’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarlledu rhaglenni plant o’r safon uchaf.”

Mae’r gyfres, a dorrodd dir newydd ym myd teledu plant gyda’r gyfres gyntaf erioed o raglenni dogfen i blant meithrin, eisoes wedi ennill cydnabyddiaeth ar lefel rhyngwladol gydag enwebiadau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd, BAFTA Plant UK a Rose d’Or.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?