S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn datgelu wyneb Owain Glyndŵr

01 Mawrth 2011

  Cafodd gwir wyneb yr arwr cenedlaethol Owain Glyndŵr ei ddatgelu am y tro cyntaf erioed ar S4C neithiwr (Nos Fawrth, 1 Mawrth).

Cafodd wyneb balch, heriol dyn yn ei 40au ei ddatgelu ar ddogfen S4C, Wyneb Glyndŵr, mewn rhaglen arbennig a ddarlledwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Datgelwyd wyneb Owain Glyndŵr gan yr actor Julian Lewis Jones ar ôl misoedd o ymchwil manwl gan dimau ymchwil o dan arweiniad cwmni cynhyrchu Wild Dream Films ac S4C.

Mae’r wyneb yn datgelu dyn pwerus ei olwg gyda llygaid brown treiddgar, gwallt brown tywyll, barf dywyll sy’n dechrau britho, trwyn siarp, wyneb yn llawn creithiau brwydrau, ynghyd â dafaden o dan un llygad.

Gallwch weld y rhaglen - a’r wyneb - ar wasanaeth ar alw’r Sianel, s4c.co.uk/clic ac fe fydd cyfle arall i fwynhau’r rhaglen nos Sul, 6 Mawrth am 6.00pm gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin.

Fe ddechreuodd Owain Glyndŵr wrthryfel yn erbyn Coron Lloegr yn 1400 a hawlio mai fe oedd Tywysog Cymru - ond doedd neb yn gwybod tan nawr sut roedd yn edrych.

Fe wnaeth ymchwil Wild Dream Films ddefnyddio’r dechnoleg 3D a chyfrifiadurol CGI (computer generated imaging) ddiweddaraf a thechnegau dad-heneiddio sy’n cael eu defnyddio gan asiantaethau fel yr FBI.

Mae’r dirgelwch yn dechrau yng Nghorwen, Caerdydd a Swydd Henffordd, ond mae rôl arbenigwr yn America a darganfyddiad rhyfeddol mewn hen archif ym Mharis yn rhoi blas rhyngwladol i’r siwrne.

Cafodd y rhaglen ei chyfarwyddo gan y cyfarwyddwr o Gasnewydd, Stuart Clarke a’i chynhyrchu gan Siôn Hughes.

Roedd Stuart Clarke yn aelod allweddol o’r tîm a gynhyrchodd y gyfres deledu ‘Death Masks’ ar History Channel US. Fe wnaeth y gyfres ail-greu wynebau Abraham Lincoln, George Washington a William Shakespeare.

Meddai Stuart Clarke: "Rwy’n hyderus ein bod wedi dod mor agos ag y gallwn at ail-greu gwir wyneb Owain Glyndŵr. Roedd yn dasg anodd yn y dechrau ond fe ddechreuon ni gael hyd i gliwiau gwahanol ac yn y pen draw roeddwn ni’n medru creu wyneb gyda llun photo fit tebyg i’r un sy’n cael ei chreu gan dimau ymchwil droseddol pan maen nhw ar drywydd rhywun. Rydym yn falch iawn o’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni gan y bydd yn rhoi anadl newydd i bennod ryfeddol yn hanes Cymru.”

Dywedodd Tweli Griffiths, Golygydd Cynnwys Ffeithiol S4C: "Mae’r rhaglen yn garreg filltir ym maes darlledu dogfennau ar S4C. Fe aeth y rhaglen â’n gwylwyr ar siwrne fythgofiadwy trwy broses ymchwilio arloesol. Bydd gan bawb ei farn am wyneb Owain Glyndŵr, ond rydym ni yn S4C yn falch iawn o’r hyn y mae’r rhaglen wedi’i chyflawni trwy ymchwil trwyadl a thechnoleg gyffrous. Mae’n rhaglen sydd wedi helpu creu hanes yn ogystal ag adrodd hanes.”

Fe ddechreuodd y broses o greu pen Glyndŵr trwy greu masg sylfaenol o’i gofgolofn farmor yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Fe wnaed ymchwil manwl wedyn i nodweddion wyneb yr arwr gan gasglu tystiolaeth o destunau hynafol, llyfrgelloedd a hen luniau.

O dan arweinid Antonis Kotsias, fe ddefnyddiodd tîm graffeg o Wlad Groeg y technegau CGI diweddara' i ail greu pen Glyndŵr ar sail gwaith ymchwil. Fe wnaeth y data gael eu defnyddio gan artistiaid 3D i greu model 3D o’r pen gan ychwanegu'r croen, llygaid a’r gwallt.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?