S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cynnal diwrnod i’r cynhyrchwyr annibynnol

03 Mawrth 2011

Bydd S4C yn cynnal diwrnod ymgynghorol gyda’r cynhyrchwyr teledu annibynnol yn Llandrindod ddydd Sul 6 Mawrth.

Nod yr achlysur yw rhannu gweledigaeth S4C ynglŷn ag egwyddorion a strwythur darlledu’r Sianel o 2012 ymlaen. Bydd y diwrnod hefyd yn rhoi cyfle i gynhyrchwyr a TAC - Teledwyr Annibynnol Cymru - gynnig eu syniadau a’u sylwadau i’r Sianel.

Bydd S4C yn cyflwyno gwahanol fodelau ar gyfer darlledu i’r dyfodol a bydd pythefnos wedyn i gynhyrchwyr gynnig awgrymiadau pellach.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?