S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyn-enillydd yn feirniad newydd Fferm Ffactor

24 Mawrth 2011

Bydd y gyfres ffermio boblogaidd Fferm Ffactor yn dychwelyd i S4C yn yr hydref gyda beirniad newydd yn ymuno â’r tîm.

Enillydd teitl cyntaf Fferm Ffactor, Aled Rees, o Aberteifi fydd beirniad newydd y gyfres sy’n chwilio am y ffarmwr gorau yn eu plith wrth ochr yr academydd amaethyddol, yr Athro Wynne Jones. Bydd Daloni Metcalfe yn dychwelyd i gyflwyno’r gyfres newydd.

Mae Aled yn ffermio tua 600 erw yn sir Aberteifi a Gogledd Sir Benfro gyda’i ewythr a’i wraig, Hedydd. Yn ffermwr organic blaengar gyda phrofiad ar draws sawl sector, mae Aled wedi ennill llu o wobrau amaethyddol dros y blynyddoedd gan gynnwys Gwobrau Tir Glas a Chyflenwyr Llaeth OMSCO. Mae’n aelod o Fwrdd Rheoli FAWL (Farm Assured Welsh Livestock) ac yn sylfaenydd a chyfarwyddwr i’r Gymdeithas Cynnal a Chefnogi Cefn Gwlad.

Bydd tasg anodd o flaen Aled yn ei rôl newydd. Bob wythnos ar Fferm Ffactor bydd yr ymgeiswyr yn gorfod profi eu gallu yn y maes amaethyddol trwy berfformio cyfres o dasgau ymarferol, busnes a gwybodaeth gyffredinol. Yna ar ddiwedd bob rhaglen, bydd y beirniaid yn gorfod cael gwared ar un cystadleuydd, gan chwalu eu breuddwydion yn y gystadleuaeth.

Yn dilyn blwyddyn brysur fel llywydd y Sioe Frenhinol a chyflwynydd Cefn Gwlad ar S4C, mae Dai Jones wedi penderfynu cael hoe fach a phasio’r awenau i Gardi ifanc sydd wedi gwneud cryn argraff arno.

“Dwi’n meddwl bod hi’n amser i ffermwr arall gael cyfle i feirniadu Fferm Ffactor erbyn hyn, ac mi fydd Aled Rees yn gwneud jobyn penigamp ohoni,” meddai Dai. “Mae’r gyfres hon wedi rhoi cyfle gwych i ffermwyr ddangos yr ystod eang o sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen mewn ffermio modern, ac mae Aled wedi bod yn llysgennad gwych i’r diwydiant ers iddo ennill y gyfres yn 2009.”

Ychwanega Aled, “Roedd yn deimlad anhygoel i gael ennill y gystadleuaeth ac roedd yn golygu gymaint i fi ac i’n nheulu. Felly pan ges i’r cyfle i feirniadu’r gyfres, roedd yn rhaid imi ei gymryd. Ond bydd yn anodd cymryd lle Dai Jones Llanilar! Byddai’n gallu uniaethu gyda’r cystadleuwyr achos rydw i wedi bod yn rhan o’r un broses, wedi mwynhau’r uchafbwyntiau, profi’r isafbwyntiau a chymryd rhan mewn tasgau tebyg.”

Hoffech chi fod yn un o’r ymgeiswyr fydd yn cystadlu am y wobr o gerbyd 4x4 Isuzu Rodeo Denver a theitl Fferm Ffactor 2011? Os felly, cysylltwch â thîm Fferm Ffactor ar 01286 685300 neu ewch i’r wefan s4c.co.uk/ffermffactor Y dyddiad cau yw Dydd Iau 31 Mawrth.

Bydd Fferm Ffactor yn dychwelyd i S4C yn yr hydref.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?