S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi dau fydd yn cystadlu yn rownd derfynol Côr Cymru 2011

14 Mawrth 2011

Côr Glanaethwy ac Ysgol Gerdd Ceredigion yw’r ddau gôr cyntaf i gyrraedd rownd derfynol Côr Cymru 2011.

Cyhoeddwyd yr enwau mewn dwy raglen ar S4C dros y penwythnos. Mewn rhaglen ar nos Sadwrn 12 Mawrth roedd cyfle i fwynhau uchafbwyntiau’r cystadlu yn rownd gynderfynol y Corau Ieuenctid, ble cyhoeddwyd mai Côr Glanaethwy sy’n mynd ymlaen i gystadlu yn y rownd derfynol. Ar nos Sul 13 Mawrth roedd cyfle i fwynhau’r perfformiadau yn y categori Corau Plant, ble daeth Ysgol Gerdd Ceredigion i’r brig.

Bydd pum côr yn cystadlu am deitl Côr Cymru 2011 yn y rownd derfynol fydd yn cael ei darlledu yn fyw ar S4C nos Sul 10 Ebrill.

Yn y rhaglen ar nos Sul 20 Mawrth am 20:30 cawn weld pa gôr o blith y Corau Meibion fydd yn y rownd derfynol. Nos Sul 27 Mawrth bydd y categori Corau Cymysg ac ar nos Sadwrn 2 Ebrill bydd rhaglen y Corau Merched yn dod a’r rowndiau cynderfynol i ben.

Darllenwch mwy am y gystadleuaeth ar wefan Côr Cymru 2011- s4c.co.uk/corcymru

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?