S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi côr arall fydd yn cystadlu am deitl Côr Cymru 2011

21 Mawrth 2011

Mae ail gôr o Ysgol Gerdd Ceredigion wedi ennill lle yn rownd derfynol Côr Cymru 2011 wedi iddynt ddod i’r brig yn y categori Corau Meibion. Cyhoeddwyd canlyniadau'r rownd gynderfynol ar S4C nos Sul 20 Mawrth.

Dyma’r trydydd côr i gyrraedd y rownd derfynol eleni. Cyhoeddwyd eisoes y bydd Côr Hŷn Glanaethwy a chôr plant o Ysgol Gerdd Ceredigion yn cystadlu yn y ffeinal, a bydd enwau dau gôr arall yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ar S4C ar nos Sul 27 Mawrth am 20:30 bydd cyfle i fwynhau uchafbwyntiau rownd cynderfynol y Corau Cymysg, ac ar nos Sadwrn 2 Ebrill am 20:30 bydd rowndiau cynderfynol y Corau Merched.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C ar nos Sul 10 Ebrill. Darllenwch mwy am y gystadleuaeth ar wefan Côr Cymru 2011 - s4c.co.uk/corcymru

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?