S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pedwerydd côr yn cyrraedd rownd derfynol Côr Cymru 2011

28 Mawrth 2011

 Y pedwerydd côr i gyrraedd rownd derfynol Côr Cymru 2011 yw côr Cywair o Gastell Newydd Emlyn. Daeth y côr i’r brig yn rownd derfynol yr adran Corau Cymysg ac fe gyhoeddwyd y newydd ar S4C nos Sul 27 Mawrth.

Rydym eisoes yn gwybod bod côr plant a chôr meibion o Ysgol Gerdd Ceredigion a Chôr Hŷn Glanaethwy wedi cyrraedd y rowndiau terfynol.

Bydd y rhaglen ar nos Sadwrn 2 Ebrill am 20:30 yn cyflwyno uchafbwyntiau rowndiau cynderfynol y Corau Merched. Ar ddiwedd y rhaglen byddwn yn gwybod pa gôr fydd yn ymuno â’r gweddill yn y rownd derfynol.

Bydd y rownd derfynol yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C ar nos Sul 10 Ebrill. Darllenwch mwy am y gystadleuaeth ar wefan Côr Cymru 2011 - s4c.co.uk/corcymru

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?