S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyflwynydd eithafol S4C yn concro’r Arctig

30 Mawrth 2011

   Mae Lowri Morgan wedi concro’r Arctig ac ennill ras eithafol y 6633 Ultra yng nghanol y tywydd gaeafol ac amgylchiadau peryglus. Lowri yw’r chweched person yn y byd i gwblhau’r ras.

Roedd camerâu’r gyfres Ras yn Erbyn Amser yn yr Arctig yn dilyn bob cam o daith Lowri. Gall gwylwyr ddilyn ei siwrnai, o’r paratoadau cynnar i holl uchafbwyntiau’r ras fuddugol, yn y gyfres bedair rhan sy’n parhau bob nos Iau ar S4C.

Mae’r 6633 Ultra ymhlith y sialensiau anoddaf ar y blaned. Gan frwydro yn erbyn tymheredd oer a chreulon yr Arctig, roedd gofyn i’r cystadleuwyr gwthio’u cyrff i’r eithaf dros 350 o filltiroedd mewn wyth diwrnod. Roedd yn rhaid byw yn gwbl hunangynhaliol a thynnu sled yn llawn offer a bwyd ar hyd y cwrs.

Llwyddodd Lowri i gwblhau’r ras mewn 174 awr ag wyth munud a threuliodd y tridiau olaf ar ei phen ei hun yn brwydro yn erbyn yr elfennau a’r amgylchiadau oer. Cyn hynny, roedd opsiwn gyda’r cystadleuwyr i orffen ar ôl 120 milltir.

Meddai Lowri, ““Mae’r ras wedi bod yn frwydr bersonol iawn - yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol. Ar ôl 7 diwrnod o frwydro, rwy’n teimlo hapusrwydd a rhyddhad llwyr. Does dim owns o egni ar ôl yn y corff a’r meddwl. Rwyf nawr yn gallu deall pam mai hon yw un o rasys anodda'r byd gyda’r cerdded a rhedeg parhaus, y diffyg cwsg a’r unigrwydd i gyd yn chwarae triciau ar y meddwl. Does dim ots faint o ymarfer rydych chi’n gwneud, does dim byd yn eich paratoi ar gyfer caledwch y ras. Y ffordd wnes i ddygymod gyda'r amodau oedd cadw’r pen i lawr a chymryd un cam ar y tro.

“Rwy’ braidd yn drist hefyd achos mae hi'n ddiwedd ar bennod arall yn fy mywyd. Yn amlwg mae gwthio fy hun i'r eithaf yn y gwaed ac mae darganfod ffiniau, gweld y byd, gwneud ffrindiau newydd a chael sgiliau a phrofiadau newydd yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i fi mewn bywyd. Ar hyn o bryd, er fy mod wedi cael cynigion i ymuno â chriwiau ar anturiaethau anhygoel, rwy' am fynd adref at fy ngŵr a’r teulu a mwynhau gallu ymlacio gyda nhw. Pwy a ŵyr pa antur fydd nesaf yn fy mywyd i?”

Ond nid dyma’r tro cyntaf i Lowri ymgeisio sialens o’r fath. Mae hi bellach yn ddeunaw mis ers i Lowri redeg ras anodda’ ei bywyd hyd yn hyn - Marathon Jwngl yr Amazon. Yn y ras honno, daeth yn drydydd ymhlith y merched ac yn y deg uchaf o bawb er gwaethaf y lleithder a'r tymheredd crasboeth.

I’r rheini a gollodd y bennod gyntaf, gallwch wylio eto ar wasanaeth ar alw S4C ar s4c.co.uk/clic am hyd at 35 diwrnod ar ôl y darllediad cyntaf. Mae ei thaith i Gylch yr Arctig yn parhau nos Iau 31 Mawrth am 20:25. Mae isdeitlau Saesneg hefyd ar gael drwy wasgu’r botwm coch.

Fel rhan o’i hymgyrch ei hun, mae Lowri wedi bod yn codi arian at elusen Shelter Cymru wrth redeg y ras. Gallwch ei noddi drwy ymweld â’r wefan: www.sheltercymru.org.uk.

Mwy am Ras yn Erbyn Amser

Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar Sky 134 a Freesat 120 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae gwasanaeth arlein S4C ar gael drwy Brydain.

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?