S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Nofiwr Olympaidd yn hyfforddi criw Stwnsh

01 Ebrill 2011

Gyda’r paratoadau yn dwysau ar gyfer Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain, un sy’n ymarfer yn galed ar hyn o bryd yw’r nofiwr David Davies. Ond mewn cyfres newydd i’w darlledu ar S4C ym mis Mehefin, bydd yn hyfforddi chwech o gyflwynwyr Stwnsh.

Mae’r gyfres Stwnsh y Gemau yn dilyn Geraint Hardy, Tudur Phillips, Owain Gwynedd, Lois Cernyw, Eleri Griffiths ac Anni Llŷn wrth iddynt gystadlu yn erbyn ei gilydd mewn cyfres o gampau, gan gynnwys rhwyfo, athletau, reslo, nofio a beicio.

Cyn i’r chwech fentro i gystadlu ym Mhwll Rhyngwladol Caerdydd, cynigiodd Davies gyngor iddynt ar eu technegau nofio. Cafodd y cyflwynwyr dro ar rasio yn erbyn y nofiwr - ond gwibiodd trwy’r dŵr gan adael y chwech ymhell ar ei ôl.

Enillodd David Davies, sy’n wreiddiol o’r Barri, y fedal arian yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008 yn y ras nofio 10K. Cafodd lwyddiant hefyd yn 2004 pan enillodd y fedal efydd yng Ngwlad Groeg. Mae Davies hefyd wedi ennill medal aur yng Ngemau’r Gymanwlad 2006.

Stwnsh yw’r gwasanaeth teledu i blant a phobl ifanc rhwng 7 a 13 oed ar S4C. Mae Stwnsh yn cael ei ddarlledu rhwng 16:00 ac 18:00 yn ystod yr wythnos ac mae Stwnsh Sadwrn ymlaen bob bore Sadwrn am 09:00.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?