S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn dod i Lŷn ac Eifionydd

04 Ebrill 2011

Bydd trigolion Llŷn ac Eifionydd yn gallu mwynhau nifer o ddigwyddiadau ym mis Ebrill wedi’u trefnu gan S4C – o lansiadau rhaglenni newydd i gwis dafarn, cyfarfod cyhoeddus a noson ar gyfer dysgwyr y Gymraeg.

Bydd y gweithgareddau yn cael eu cynnal rhwng 11 a 19 Ebrill o dan ambarél yr ymgyrch Calon Cenedl. Fel rhan o’r ymgyrch, mae S4C yn ymweld â chymunedau ledled y wlad i hyrwyddo ei rhaglenni, personoliaethau a gwasanaethau ar-lein.

Ar 13 Ebrill, bydd y gyfres ddrama newydd sbon Porthpenwaig, a ffilmiwyd ar leoliad yn Aberdaron, yn cael ei dangos mewn noson arbennig yn Ysgol Crud y Werin, Aberdaron. I ddilyn y dangosiad bydd sesiwn holi ac ateb gydag awduron y gyfres, Cefin Roberts ac Aled Jones Williams. Hefyd, Porthpenwaig fydd canolbwynt noson ar gyfer dysgwyr sy’n cael ei chynnal yng Ngholeg Meirion Dwyfor ar 14 Ebrill a bydd aelod o dîm cynhyrchu’r gyfres yn ymweld ag ysgolion lleol.

Ar 11 Ebrill, bydd Russell Jones, cyflwynydd Byw yn yr Ardd, yn ymweld â Chanolfan Felin Uchaf, Rhoshirwaun i gyfrannu tuag at gynnal gardd gymunedol yno ac ateb cwestiynau’r cyhoedd. Bydd Russell yn ymweld â gardd gymunedol i bobl ifanc ym Mhwllheli ar 19 Ebrill. Bydd y cogydd a chyflwynydd Stwnsh, Anthony Evans, yn coginio yn y digwyddiad hefyd.

Bydd Morgan Jones, y cyflwynydd o Drefor, yn cynnal cwis dafarn yn y Prince of Wales, Cricieth ar 12 Ebrill.

Bydd yr actores Lauren Phillips yn cynnal gwers ddawns arbennig yn Ysgol Dawns Pwllheli ar 16 Ebrill er mwyn hyrwyddo’r gyfres newydd i bobl ifanc Tîm Talent.

Ar 18 Ebrill bydd noson i hyrwyddo Perthyn, cyfres hel achau newydd, yn Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy. Bydd y digwyddiad yng nghwmni aelodau o’r tîm cynhyrchu ac aelodau prosiect Casgliad y Werin Cymru.

Bydd gweithgareddau i hyrwyddo’r gyfres feithrin newydd Marcaroni yn cael eu cynnal gyda grwpiau meithrin ac ysgolion lleol. Bydd Anni Llŷn ac Owain Gwynedd, cyflwynwyr gwasanaeth S4C ar gyfer plant hŷn, Stwnsh, hefyd yn cwrdd â gwylwyr yn yr ardal.

Mae croeso cynnes i wylwyr fynychu Noson Gwylwyr S4C, cyfarfod cyhoeddus a gynhelir yn Y Ganolfan ym Mhorthmadog ar 19 Ebrill. Yno, bydd cyfle i drafod y Sianel a’i rhaglenni wyneb-yn-wyneb â’r Prif Weithredwr Arwel Ellis Owen a rhai o staff S4C, a Chadeirydd yr Awdurdod, Rheon Tomos ac aelodau eraill o’r Awdurdod. Bydd lluniaeth ysgafn ac adloniant hefyd ar gael ar y noson.

Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C, “Mae cwrdd â’r gynulleidfa, siarad gyda’n gwylwyr a gwrando arnyn nhw yn ganolog i’n hymgyrch Calon Cenedl, ac mae pawb yn edrych ymlaen at ymweld â Llŷn ac Eifionydd. Mae sawl cyfres gyffrous newydd naill ai wedi’i ffilmio yn yr ardal neu â chysylltiadau cryf â gogledd orllewin Cymru. Ry’n ni’n gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r rhaglenni hyn, a gwrando ar yr un pryd ar farn y bobl am ein rhaglenni a’n gwasanaethau eraill.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?