S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cwpan Rygbi’r Byd 2011 ar S4C

06 Ebrill 2011

  Mae S4C wedi sicrhau’r hawliau i ddarlledu rowndiau terfynol Cwpan Rygbi’r Byd 2011 yn Seland Newydd.

Bydd darllediadau’r sianel yn cynnwys naw gêm yn fyw gan ddilyn holl gemau Cymru yn ystod y bencampwriaeth. Yn ogystal â hynny, bydd gêm o rownd yr wyth olaf, gêm o’r rownd gynderfynol, y gêm trydydd safle a’r ffeinal hefyd yn fyw ar S4C.

Bydd gwasanaeth S4C yn dechrau ar 9 Medi gyda darllediad o’r seremoni a’r gêm agoriadol rhwng Seland Newydd a Tonga ym Mharc Eden, Auckland.

Gyda’r holl gemau yn fyw yn ystod y boreau, bydd cyfle i wylwyr fwynhau ail-ddangosiad yn hwyrach yn y dydd o fewn yr oriau brig. I’r rheini sy’n colli’r darllediadau cyntaf, bydd cyfle i weld y cyfan eto y diwrnod canlynol.

Bydd ymgyrch Cymru yn y bencampwriaeth yn dechrau ar 11 Medi yn erbyn deiliaid Cwpan y Byd, De Affrica, yn Wellington. Yna bydd Cymru’n symud ymlaen i herio Samoa yn Stadiwm Waikato yn Hamilton (18 Medi). Namibia fydd gwrthwynebwyr nesaf Cymru ar 26 Medi yn New Plymouth cyn iddynt wynebu Ffiji nôl yn Hamilton ar 2 Hydref.

Yn ogystal â’r darllediadau teledu, bydd y naw gêm ar gael i’w gwylio ar wasanaeth dal i fyny ar-lein S4C, s4c.co.uk/clic. Gallwch hefyd fwynhau holl uchafbwyntiau’r gemau ar y wefan rygbi, s4c.co.uk/rygbi.

Mae’n fwriad darlledu cyfres Jonathan yn ystod y bencampwriaeth gyda Jonathan Davies, Nigel Owens a Sarra Elgan yn bwrw golwg ysgafn ar yr holl chwarae ar noswyl gemau Cymru.

Meddai Shane Williams, chwaraewr y Gweilch a Chymru: “Mae Cwpan y Byd bob tro yn ddigwyddiad arbennig i unrhyw chwaraewr rygbi sy’n cael y cyfle i chwarae yn y gystadleuaeth. Eleni bydd yn fwy pwysig nag arfer imi’n bersonol gan mai dyma fydd y tro olaf imi chwarae yng Nghwpan y Byd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at Seland Newydd ac mae’r ffaith fod gwylwyr S4C yn mynd i gael gwylio holl gemau Cymru ar y sianel yn newyddion da dros ben.”

Meddai Jamie Roberts, chwaraewr y Gleision a Chymru: “Mae Cwpan Rygbi’r Byd yn uchafbwynt yn y calendr rygbi ac mae’n newyddion arbennig o dda fod S4C yn ymuno yn y digwyddiad mawreddog drwy ddarlledu gemau Cymru’n fyw yn Gymraeg. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gystadlu am le yng ngharfan Cwpan y Byd Cymru yn Seland Newydd ac rwy’n falch y bydd gan bobl Cymru'r cyfle i ddilyn ein carfan genedlaethol ar S4C.”

Ychwanega Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C: “Drwy gynnig darllediadau byw o Gwpan Rygbi’r Byd eleni, mae’n gyfle gwych i gynulleidfa Cymru fwynhau’r gystadleuaeth o bersbectif Cymraeg. Dyma un o uchafbwyntiau’r calendr chwaraeon eleni a bydd llygaid y byd rygbi ar Seland Newydd yn yr hydref. Felly mae’n gyfle arbennig i wylwyr S4C fod yng nghanol y cystadlu, y miri a’r cyffro.”

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?