S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi enwebiadau BAFTA Cymru 2011 – 38 i S4C

14 Ebrill 2011

   Mae rhaglenni S4C wedi derbyn 38 o enwebiadau ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru 2011, gyda’r ddrama afaelgar Pen Talar yn arwain y ffordd gyda 12 enwebiad.

Cynhyrchiad Fiction Factory yw Pen Talar ac mae’r gyfres epig yn mynd â’r gynulleidfa ar siwrnai drwy’r degawdau o dwf cenedlaetholdeb yn y 1960au i bleidlais ddramatig Datganoli 1997 ac i Gymru 2010.

Ymhlith y ddeuddeg enwebiad i’r ddrama mae categorïau Drama Deledu, Actor Gorau (Richard Harrington), Actores Orau (Mali Harries), Awdur Gorau (Siôn Eirian ac Ed Thomas) a Chyfarwyddwyr: Ffuglen Gorau (Gareth Bryn ac Ed Thomas).

Mae cyfres drawiadol Y Fenai, a gynhyrchwyd gan Gwmni Da, wedi derbyn tri enwebiad. Dyma gyfres oedd yn cyflwyno un o ryfeddodau naturiol ein gwlad sy’n gwbl unigryw i Gymru. Roedd yn dilyn llanw a thrai bywydau’r bobl sy’n byw a gweithio ar lannau unig gulfor Cymru ar draws y tymhorau.

Yn y categori Rhaglen Blant, mae un o gyfresi mwyaf poblogaidd Cyw, Y Diwrnod Mawr (Ceidiog) wedi’i henwebu. Mae’r gyfres, a dorrodd dir newydd ym myd teledu plant gyda’r gyfres gyntaf erioed o raglenni dogfen i blant meithrin, eisoes wedi ennill cydnabyddiaeth ar lefel ryngwladol gydag enwebiadau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd, BAFTA Plant UK, Royal Television Society a Rose d’Or.

Ymhlith rhaglenni eraill S4C i dderbyn enwebiadau BAFTA Cymru eleni mae cyfres olaf y ddrama Caerdydd (4 enwebiad), y gyfres ddogfen O Gwanas i Gbara (3 enwebiad) a’r ddogfen O’r Galon: Y Trên i Ravensbrück (4 enwebiad).

Mae Byd Pawb: Nôl i Fethlehem, Ras yn Erbyn Amser, Cyngerdd Mawr Talent Cymru, Only Men Aloud, Llangollen 2010, Y Daith: O Ddyffryn Aeron i Madagascar, ‘Sgota, Byw yn ôl y Llyfr a Pethe hefyd wedi’u henwebu.

Mae’r cyflwynwyr Angharad Mair a Bethan Gwanas wedi’u henwebu yn y categori Cyflwynydd Gorau am eu cyfresi Wedi 7 ac O Gwanas i Gbara.

Daw’r newyddion am 38 enwebiad S4C ar yr un pryd a chyhoeddi ffigyrau diweddaraf o Werthfawrogiad Cynulleidfa gan Kantar Media. Yn ôl y ffigyrau, mae gwerthfawrogiad y gynulleidfa o raglenni S4C yn gosod y sianel yn uwch na rhaglenni sianeli eraill ar ddechrau 2011.

Meddai Meirion Davies, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Rydym yn falch iawn bod cymaint o’n rhaglenni wedi’u henwebu unwaith eto eleni ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru. Mae nifer yr enwebiadau yn gydnabyddiaeth arbennig o dalent a gwaith caled cynhyrchwyr rhaglenni'r sector annibynnol ar gyfer S4C. Mae Pen Talar ymysg y dramâu mwyaf uchelgeisiol mae S4C wedi eu darlledu ac mae’r nifer o enwebiadau yn deyrnged i bawb a fu’n gyfrifol am y daith o’r sgript i’r sgrin.”

Cynhelir seremoni wobrwyo BAFTA Cymru 2011 yng Nghanolfan y Mileniwm nos Sul 29 Mai.

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?