S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Côr Cywair yn ennill Côr Cymru 2011

10 Ebrill 2011

  Mae côr cymysg o Gastell Newydd Emlyn yn dathlu ar ôl ennill cystadleuaeth gorawl S4C, Côr Cymru.

Curodd côr Cywair, o dan arweiniad Islwyn Evans, bedwar o gorau eraill yn y rownd derfynol a ddarlledwyd yn fyw ar S4C heno (10 Ebrill) i gipio’r brif wobr o £5,000 a’r teitl Côr Cymru 2011.

Dyma’r ail waith i’r côr cymysg ennill tlws Côr Cymru gan iddyn nhw gipio’r tlws yn 2007 hefyd.

Y beirniaid eleni oedd Stephen Connolly, cyn aelod o’r grŵp llwyddiannus The King’s Singers, Denes Szabo arweinydd tri o gorau mwyaf llwyddiannus Hwngari, a’r arweinydd byd enwog Carlo Rizzi.

Yn ogystal â dewis y côr buddugol, roedd y beirniaid hefyd yn gwobrwyo arweinydd gorau’r gystadleuaeth, gan gynnwys yr ugain côr oedd wedi cystadlu yn y rowndiau cynderfynol. Yn fuddugol eleni mae Islwyn Evans, arweinydd tri o’r pum côr yn y rownd derfynol.

Ond nid y beirniaid oedd yr unig rai i gael lleisio eu barn. Am y tro cyntaf eleni roedd cyfle i wylwyr ddewis eu hoff gôr nhw drwy bleidlais ffôn ar y noson. Enillydd tlws Gwobr y Gwylwyr ydi’r côr merched Cantata.

Meddai Hefin Owen, o gwmni Rondo, Uwch Gynhyrchydd y gyfres Côr Cymru ar S4C, “Yn bendant, mae pobl yn edrych ymlaen at Côr Cymru bob dwy flynedd. Mae teitl Côr Cymru yn eithriadol o bwysig i’w gael gan fod y safon mor uchel, a’r gystadleuaeth yn gre. I’r corau sy’n cyrraedd y rownd derfynol, maen nhw eisoes wedi dod i’r brig yn eu categori unigol, boed yn lleisiau merched, meibion, plant, ieuenctid neu gymysg.

“Roedd hi’n noson wych o gystadlu heno a llongyfarchiadau i Cywair am ennill y gystadleuaeth.”

Dyma’r pumed tro i S4C gynnal Côr Cymru. Yr enillwyr blaenorol oedd Ysgol Gerdd Ceredigion yn 2009, Côr Cywair yn 2007, Serendipity o Gaerdydd yn 2005 ac Ysgol Gerdd Ceredigion yn 2003.

Bydd modd mwynhau uchafbwyntiau’r rownd derfynol ar S4C nos Sadwrn 16 Ebrill am 21:10.

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?