S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyflwynydd S4C ar garlam i Farathon Llundain 2011

12 Ebrill 2011

Bydd un o gyflwynwyr S4C yn rhedeg Marathon Llundain Virgin ddydd Sul 17 Ebrill ac yn codi arian i’r elusen Cancer Research UK.

Owain Gwynedd, sy’n cyflwyno Stwnsh i blant a phobl ifanc ar y sianel, fydd ymhlith 46,500 o redwyr yn y ras 26 milltir o amgylch rai o adeiladau mwyaf adnabyddus Llundain.

Mae Owain, sy’n wreiddiol o Borthmadog, yn codi arian er cof am ei dad bedydd Ifor Pritchard a fu farw’n ddiweddar.

Nid Owain yw’r cyntaf o griw Stwnsh i redeg Marathon Llundain. Y llynedd gwnaeth Geraint Hardy lwyddo i orffen y ras toc wedi pedair awr a chododd bron i £2,000 i elusen yr NSPCC.

Meddai Owain, “Cafodd Ifor ddylanwad mawr ar fy mywyd ac roedd yn gefnogol ohono i ym mhob ffordd. Dwi ddim yn gallu meddwl am well ffordd o gofio Ifor na thrwy godi arian i elusen sy’n ceisio atal a thrin yr afiechyd wnaeth gymryd ei fywyd. Mae yna siawns fydd un o bob tri pherson yn dioddef o ryw fath o ganser yn eu bywydau. Felly gyda hynny, rwy’n gobeithio bydd pobl yn fy nghefnogi ac yn fy helpu i godi gymaint o arian ag sy’n bosib.”

Mae Marathon Llundain yn un o bum prif farathon rhyngwladol ac yn un o ddigwyddiadau codi arian mwya’r byd. Mae cwrs y ras yn arwain rhedwyr heibio rhai o leoliadau ac adeiladau mwyaf adnabyddus Llundain fel y London Eye, Buckingham Palace, Canary Wharf a Tower Bridge.

“Dyma’r tro cyntaf imi wneud unrhyw beth ar y raddfa hon ond rwy’n edrych i godi swm mawr o arian i’r elusen a hefyd i guro amser Geraint. Rwy’n gobeithio gorffen y ras o fewn pedair awr. Fyddai’n hapus iawn pe bawn i’n gallu gwneud hynny,” eglura Owain.

Wedi wythnosau o baratoi ac ymarfer caled, tybed os fydd Owain yn llwyddo i groesi’r llinell derfyn. I ddarganfod sut wnaeth y cyflwynydd yn ystod y ras, gwyliwch Stwnsh ar S4C prynhawn Llun rhwng 16:00 ac 18:00.

Gallwch noddi Owain hefyd drwy ymweld â’r wefan: www.justgiving.com/owain-gwynedd-griffith

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?