S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglen S4C ar daith Only Men Aloud yn ennill yn Stornoway

13 Ebrill 2011

  Rhaglen ddogfen ddadlennol S4C am gôr enwoca’ Prydain, Only Men Aloud oedd un o enillwyr cyntaf yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2011 yn Stornoway, yr Alban neithiwr (Nos Fercher 13 Ebrill).

Cipiodd y rhaglen Only Men Aloud – O Dredegar Newydd i Efrog Newydd, cynhyrchiad Boomerang+, y brif wobr yn y categori Celfyddydau.

Yn y rhaglen awr o hyd bu’r camerâu yn dilyn y côr meibion 20-aelod a’u cyfarwyddwr cerdd carismatig Tim Rhys-Evans wrth iddynt ddychwelyd i dre' frodorol Tim, Tredegar Newydd i ddathlu deng mlwyddiant y côr. Yn y rhaglen maent hefyd yn cael eu gweld yn hedfan draw i Efrog Newydd i hyrwyddo’r côr ac yn teithio i Lundain ar gyfer seremoni wobrwyo’r Classic Brits, lle cawson nhw enwebiad yn y categori Albwm y Flwyddyn.

Fe ddaeth y côr i’r amlwg y tu hwnt i Gymru am y tro cyntaf wrth ennill cystadleuaeth corau’r BBC, Last Choir Standing yn 2008.

Meddai Meirion Davies, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Llongyfarchiadau mawr i’r cwmni cynhyrchu, i Tim Rhys-Evans a’r côr am gyflawni dogfen sy’n adlewyrchu brawdoliaeth, talentau a’r pwysau cynyddol sydd ar griw creadigol wrth iddynt ddatblygu eu gyrfa.”

Diwedd

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?