S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglen Lowri yn ennill y ras am wobr fawr ‘Ysbryd yr Ŵyl’

16 Ebrill 2011

  Mae cyfres bwerus S4C sy’n dilyn ras epig yr athelwraig a’r cyflwynydd Lowri Morgan yn jyngl yr Amazon wedi ennill gwobr ‘Ysbryd yr Ŵyl’ yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd 2011.

Enillodd Ras yn Erbyn Amser un o wobrau pwysicaf yr ŵyl a gafodd ei chynnal yn Stornoway, Ynys Lewis, Yr Alban.

Yn gynhyrchiad gan gwmni P.O.P.1 ar gyfer S4C, mae’r gyfres bedair rhan yn dilyn Lowri yn rhedeg Marathon y Jyngl yn yr Amazon, ras anodda’r byd.

Mae’r gyfres, a gafodd ei darlledu ddechrau 2010 yn fuan ar ôl i Lowri gwblhau’r marathon, yn ei dilyn yn paratoi, ymarfer ac yn rhedeg y ras 222 cilomedr saith niwrnod yng ngwres crasboeth ac amgylchiadau anodd jyngl yr Amazon.

Rhoddir y wobr arbennig hon i raglen deledu neu ffilm o ansawdd uchel sydd yn llwyr neu’n sylweddol mewn iaith Geltaidd.

Meddai Meirion Davies, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Mae'r gyfres Ras yn Erbyn Amser yn llwyddo i gyfleu dycnwch ac ymroddiad rhyfeddol Lowri Morgan wrth iddi wthio ffiniau corff a meddwl i'r eithaf yn y jyngl. Llongyfarchiadau mawr i Lowri a'r tîm cynhyrchu am grisialu ymdrech mewn un naratif oedd yn mynnu sylw’r gwyliwr. Mae ‘Ysbryd yr Ŵyl’ yn wobr gwbl addas i gloriannu campau Lowri yn y maes.”

Ers cwblhau marathon y jyngl mae’r athletwraig 35 mlwydd oed, sy’n wreiddiol o Abertawe ac nawr yn byw yng Nghaerdydd, wedi cwblhau sialens rhedeg fawr arall, y Ras 6633 Ultra yn yr Arctig.

Bu camerâu cwmni P.O.P.1 yn dilyn y ras hon hefyd ac mae’r ail gyfres o Ras yn Erbyn Amser, newydd ddod i ben ar S4C.

Meddai Lowri Morgan: "Mae'n fraint ac yn anrhydedd ennill gwobr fwya' Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2011. Rydw i'n hynod ddiolchgar ac yn ei gwerthfawrogi'n fawr.

“Mae derbyn y wobr hon yn fraint fawr - yn union fel yr oedd cael y cyfle i redeg y ddau farathon ultra yn y jyngl a’r Arctig. Mae derbyn cydnabyddiaeth am rywbeth dwi’n caru ei wneud - sef cynhyrchu rhaglenni teledu, gwthio ffiniau personol a darganfod rhai newydd - yn fraint fawr.

“Ond ni fyddwn i wedi llwyddo heb gefnogaeth, cymorth, cred ac ymroddiad y cynhyrchydd Dafydd Rhys, criw P.O.P.1 a’r tîm yn S4C.”

Mae’r llwyddiant hwn yn golygu bod S4C wedi cipio tair gwobr yn yr ŵyl eleni.

Fe wnaeth y rhaglen ddogfen am y côr meibion byd-enwog, Only Men Aloud - O Dredegar Newydd i Efrog Newydd (Cynhyrchiad Boomerang+ ar gyfer S4C), ennill y brif wobr yn y categori Celfyddydau.

Llwyddodd ffilm hyrwyddo liwgar, sydd yn hyrwyddo criced a rygbi ar S4C trwy bortreadu dyfarnwyr criced yn perfformio’r Haka, ennill y brif wobr yn y categori Ymgyrch Farchnata Orau.

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?