S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig

11 Mai 2011

Mae S4C yn croesawu Adroddiad y Pwyllgor Dethol ac yn arbennig ei werthfawrogiad o gyfraniad pwysig y Sianel i fywyd diwylliannol ac economaidd Cymru. Yn ychwanegol, dywed y Pwyllgor fod S4C yn gwneud cyfraniad sylweddol yn hyrwyddo’r Gymraeg mewn cyfrwng sy’n cyrraedd plant a phobl ifanc ac sy’n ategu addysg ddwyieithog mewn ysgolion.

Mae’r Pwyllgor yn cydnabod na fyddai gan Gymru sector gynhyrchu annibynnol heb fodolaeth S4C.

Mae’r Adroddiad yn nodi bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i S4C ond mae’r Pwyllgor Dethol yn glir yn ei farn y dylid, fel rhan o’r trafodaethau presennol gyda’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r BBC, sicrhau annibyniaeth weithredol a golygyddol y Sianel at y dyfodol. Maent yn galw yn yr Adroddiad am i Lywodraeth San Steffan sicrhau dyfodol ariannol y Sianel o 2014-15 ymlaen.

Cydnabyddir hefyd lwyddiant S4C i gadw ei gwylwyr yn yr oriau brig dros y blynyddoedd diwethaf ac yn fwy diweddar dros gyfnod y newid i ddarlledu digidol. Ond mae’r adroddiad yn lleisio pryder ynglŷn â’r nifer o siaradwyr Cymraeg s’yn gwylio S4C. Mae S4C ei hun yn cydnabod bod angen sicrhau twf ymhlith y garfan hon.

Meddai Rheon Tomos, Cadeirydd Awdurdod S4C, “Mae’r Adroddiad yn un cadarnhaol ar y cyfan ac yn gymorth i S4C wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol. Rydym yn ymwybodol bod gwaith i wneud mewn rhai meysydd ac mae llawer o’r gwaith hynny ar y gweill ers rhai misoedd bellach.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?