S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Promo Chwe Gwlad S4C yn derbyn enwebiad Ewropeaidd

27 Ebrill 2011

Mae ymgyrch ar sgrin S4C i hyrwyddo Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2011, sy’n cynnwys saith o gyn-faswyr rygbi Cymru ac un o sêr y dyfodol, wedi’i henwebu am wobr arbennig.

Mae’r promo, sy’n arddangos talent rygbi Cymru dros y trigain mlynedd diwethaf, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Undeb Darlledu Ewrop ar 6 Mai. Bydd yn cystadlu yn erbyn pum ymgyrch arall yn y categori Chwaraeon.

Ymhlith y chwaraewyr sy’n ymddangos yn yr ymgyrch mae Cliff Morgan, Barry John, Phil Bennett, Gareth Davies, Jonathan Davies, Neil Jenkins a Stephen Jones.

Mae’r ymgyrch yn dangos pob un o'r cyn-chwaraewyr rhyngwladol, yn eu tro, yn tynnu’r llwch o’u crysau cochion ac yn eu gwisgo hyd nes bod seren tîm Cymru Dan 20 Steve Shingler yn ymddangos ar ddiwedd yr hysbyseb yn cynrychioli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr yn y safle.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?