S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sêr dyfodol y byd rygbi ar S4C

04 Mai 2011

Bydd S4C yn cynnig darllediadau byw o Bencampwriaeth Rygbi’r Byd dan 20 y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol (IRB) eleni.

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Yr Eidal ym mis Mehefin a gallwch ddilyn ymgyrch carfan Cymru dan 20 yn fyw ac yn egscliwsif ar y sianel.

Ymysg y gemau a ddarlledir yn fyw ar S4C fydd gemau’r rowndiau cyntaf rhwng Cymru v Yr Ariannin (10 Mehefin), Cymru v Seland Newydd (14 Mehefin) a Chymru v Yr Eidal (18 Mehefin). Yn ogystal â hynny, bydd y rownd gynderfynol a’r rownd derfynol hefyd yn fyw ar S4C pe bai Cymru’n llwyddo i gyrraedd y cymalau hynny.

Bydd yr holl gemau a ddarlledir ar S4C ar gael i’w gwylio ar alw ar-lein, s4c.co.uk/clic. Gallwch hefyd fwynhau holl uchafbwyntiau’r gemau ar y wefan rygbi, s4c.co.uk/rygbi.

Mae’r cyhoeddiad yn dilyn cyfnod cyffrous i wylwyr rygbi ar S4C, gyda’r sianel yn ennill hawliau i ddangos rowndiau terfynol Cwpan Rygbi’r Byd 2011 yn Seland Newydd.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?