S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi sefydlu dwy gronfa newydd

11 Mai 2011

 Mewn derbyniad i wleidyddion yn San Steffan heddiw cyhoeddodd Prif Weithredwr S4C, Arwel Ellis Owen fanylion cronfa newydd i gefnogi cyd-gynyrchiadau ym maes teledu.

Bydd y gronfa cyd-gynhyrchu yn cael ei sefydlu gydag arian masnachol S4C ac yn werth dros £1m y flwyddyn dros bedair blynedd.

Dywedodd Arwel Ellis Owen hefyd y bydd cronfa ddigidol yn cael ei sefydlu er mwyn hybu datblygiadau ym maes cyfryngau digidol ac aml-blatfform. “Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad ei fod yn awyddus i sefydlu cronfa werth £10m yn y maes hwn ac mae S4C yn awyddus iawn i chwarae rhan yn y datblygiad ac i fuddsoddi yn y gronfa,”meddai.

“Rwyf yn gobeithio hefyd y bydd y gronfa cyd-gynhyrchu yn gwneud y defnydd gorau o’r arian masnachol er mwyn rhoi hwb a chefnogaeth i gwmnïau cynhyrchu feddwl yn uchelgeisiol am gynnwys tuag at y dyfodol.”

Cadarnhaodd Arwel Ellis Owen ymrwymiad S4C i ddarlledu o brif ddigwyddiadau’r haf yng Nghymru sef Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol am y blynyddoedd i ddod.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?