S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn galw am ddiswyddiadau gwirfoddol

12 Mai 2011

  Mae S4C wedi sefydlu cynllun diswyddiadau gwirfoddol ymhlith ei staff yn dilyn y toriadau yng nghyllideb y Sianel. Cyhoeddwyd y cynllun mewn cyfarfod rhwng y Prif Weithredwr, Arwel Ellis Owen a’r staff heddiw (Dydd Iau 12 Mai).

Cyhoeddwyd toriad yng nghyllideb S4C o 24% dros bedair blynedd fel rhan o Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr Llywodraeth San Steffan fis Hydref y llynedd.

Yn ogystal â gwahodd ceisiadau diswyddo gwirfoddol, cyhoeddodd S4C ei fod yn barod hefyd i ystyried ceisiadau gan staff sy’n dymuno lleihau eu horiau gwaith neu rannu swydd.

Diwedd 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?