S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Iona Jones – gwrthdyniad gan S4C

14 Mai 2011

Ar 12 Chwefror 2011, fe wnaeth S4C ddatganiadau i’r cyfryngau yn dilyn cyhoeddi adroddiad Shortridge a allai fod wedi cael eu dehongli fel honiad mai Iona Jones, cyn Brif Weithredwr S4C, yn unig oedd yn gyfrifol am wireddu’r polisi o Arwahanrwydd ac a allai gael eu gweld fel beirniadaeth o Ms Jones.

O gofio bod S4C a Ms Jones wedi dod i gytundeb mewn perthynas â hawliadau Ms Jones gerbron y Tribiwnlys Cyflogaeth ar delerau yr oedd y partïon yn fodlon â nhw, mae S4C yn derbyn ei fod yn amhriodol i wneud y datganiadau hyn ac mae yn eu tynnu yn ôl yn llwyr. Mae S4C hefyd am nodi nad Ms Jones oedd pensaer y polisi Arwahanrwydd. Mae S4C yn ymddiheuro i Ms Jones am unrhyw ofid a achoswyd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?