S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Adroddiad arbennig am achos llofruddiaethau Sir Benfro

26 Mai 2011

 Heddiw, yn Llys y Goron Abertawe, cafodd un o droseddwyr mwyaf drwg-enwog Cymru erioed ei garcharu am ddwy lofruddiaeth ddwbl erchyll yn Sir Benfro. Heno, bydd Y Byd ar Bedwar (S4C, nos Iau 26 Mai 21:00) yn adrodd am yr ymchwiliad anhygoel a arweiniodd at roi John Cooper dan glo, bron i dri degawd wedi iddo ladd am y tro cyntaf.

Yn yr wythdegau cafodd Richard Thomas a’i chwaer Helen a’r par priod Peter a Gwenda Dixon eu saethu’n farw mewn ymosodiadau gwaedlyd. Roedd hi’n edrych yn debyg na fyddai unrhyw un yn cael eu herlyn am y troseddau, ond diolch i ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth fforensig, llwyddodd tîm o dditectifs Heddlu Dyfed-Powys i rwydo Cooper chwarter canrif a mwy yn ddiweddarach.

Yn 1998, dedfrydwyd Cooper i un mlynedd ar bymtheg o garchar am fyrgleriaethau a lladrata. Ar y rhaglen heno bydd y swyddog a holodd Cooper bryd hynny yn siarad am y tro cyntaf am ei rwystredigaeth wrth gyfweld â’r dihiryn.

Dywedodd e wrth Y Byd ar Bedwar: “Siaradodd e ddim gyda fi, edrychodd e ddim arna i. Roedd ei wyneb yn ei ddwylo drwy’r amser. Doedd e ddim hyd yn oed yn cydnabod ei enw.”

Er bod yr heddlu yn tybio mai Cooper oedd yn gyfrifol am lofruddio’r pedwar, methodd Heddlu Dyfed-Powys brofi hynny ym 1998. Ond wrth gael ei holi gan Y Byd ar Bedwar am y methiant hwn, mynnodd Jeff Thomas, oedd yn bennaeth CID ar y pryd, nad oedd yn difaru dim am yr ymchwiliad.

“Dydw i ddim yn difaru o gwbl. Yn ystod fy ngyrfa [fe wnaethon ni] sicrhau tystiolaeth [a wnaeth, yn y pen draw] sicrhau ei fod e’n mynd o flaen ei well,” meddai Jeff Thomas.

Yn 2007, ail-agorwyd yr ymchwiliad i’r llofruddiaethau a’r tro hwn llwyddodd yr heddlu i gysylltu John Cooper gyda’r llofruddiaethau ac fe adeiladwyd achos cryf yn ei erbyn.

Bydd Y Byd ar Bedwar hefyd yn siarad â’r cymdogion fu’n byw drws nesaf i Cooper yn Nhreletert, gan ddangos lluniau dramatig o eiliadau diwethaf y llofrudd a’i draed yn rhydd. Hefyd bydd cyfle i weld cyfweliadau trawiadol lle mae’r llofrudd ei hun yn ymateb i’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?