S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi cytundebau darpariaeth S4C o gystadlaethau rygbi rhyngwladol

17 Mai 2011

 Mae’n bleser gan S4C gyhoeddi canlyniadau'r tendrau ar gyfer y gwaith o ddarparu cynnwys y Sianel o gystadlaethau rygbi Cwpan y Byd 2011 a Phencampwriaeth Ieuenctid y Byd 2011. Fe ddaw’r cyhoeddiad yn dilyn proses dendr agored a chystadleuol.

Slam Media fydd yn gyfrifol am ein darpariaeth o Bencampwriaeth Ieuenctid y Byd a phartneriaeth rhwng cwmnïau Sunset+Vine Cymru a Sports Media Services fydd yn gyfrifol am ein cynnwys o Gwpan Rygbi’r Byd.

Bydd S4C yn cynnig darpariaeth gynhwysfawr o’r ddwy gystadleuaeth gan ddechrau gyda Cymru v Ariannin ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd ar ddydd Gwener 10 Mehefin am 16.55.

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?