S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Wyth o raglenni S4C yn ennill gwobrwyon BAFTA Cymru

29 Mai 2011

 

Enillodd rhaglenni S4C wyth o wobrau yn seremoni wobrwyo BAFTA Cymru 2011 (nos Sul 29 Mai) gan gynnwys y Cyflwynydd Gorau i Angharad Mair o’r rhaglen nosweithiol Wedi 7, a gynhyrchir gan Tinopolis.

Rhoddwyd y wobr i Angharad Mair am raglen deyrnged yng nghyfres Wedi 7 i’r hanesydd, awdur ac ymgyrchwr dros yr iaith Gymraeg, Hywel Teifi Edwards a fu farw llynedd.

Enillodd y ddrama gyfres Caerdydd, a gynhyrchir gan Fiction Factory i S4C, ddwy wobr. Cipiodd y gyfres, sy’n dilyn hynt a helynt grŵp o bobl ifanc yn y brifddinas, y wobr am yr Awdur Gorau a’r wobr am Ddylunio Gwisgoedd.

Cafodd y rhaglen ddogfen rymus O’r Galon: Y Trên i Ravensbrück ddwy wobr hefyd - y wobr Golygu:Ffeithiol a’r wobr Camera Gorau. Mae’r rhaglen, cynhyrchiad Rondo Media i S4C, yn dilyn teulu o Gymru i’r Almaen i ddarganfod mwy am ddioddefaint erchyll eu perthnasau yn yr Ail Ryfel Byd.

Y ddrama gyfres Pen Talar, cynhyrchiad Fiction Factory i S4C, enillodd y wobr Cerddoriaeth Gorau. Gwanas i Gbara, cyfres Teledu Telesgôp i S4C, yn dilyn Bethan Gwanas ar daith emosiynol i Nigeria, enillodd y wobr Cyfarwyddwr:Ffeithiol. Cipiodd y gyfres Byw yn ôl y Llyfr y wobr am y teitlau gorau. Crëwyd y teitlau gan Dinamo i’r cynhyrchwyr Cwmni Da.

Meddai Meirion Davies, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, “Rydym yn falch iawn bod cymaint o’n rhaglenni wedi cael cydnabyddiaeth a llwyddiant yng ngwobrau BAFTA Cymru. Mae’n dyst i safon cynnyrch S4C ac ymroddiad a gallu'r sector gynhyrchu yng Nghymru. Mae’n gydnabyddiaeth deilwng o’u gwaith caled i gynhyrchu rhaglenni o’r radd flaenaf. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr sy’n llawn haeddu’r anrhydedd.”

Enillwyr S4C:

Y Cyflwynydd Gorau

Angharad Mair, Wedi 7 - Tinopolis

(Teyrnged Hywel Teifi)

Awdur

Caerdydd, Roger Williams – Fiction Factory

Dylunio Gwisgoedd

Caerdydd, Jakki Winfield – Fiction Factory

Golygu: Ffeithiol

O’r Galon: Y Trên i Ravensbrück, John Gillanders – Rondo Media

Camera

O’r Galon: Y Trên i Ravensbrück, Mike Harrison – Rondo Media

Cerddoriaeth

Pen Talar, Dafydd Ieuan/Cian Ciaran – Fiction Factory

Cyfarwyddwr: Ffeithiol

Gwanas i Gbara, Mei Williams – Teledu Telesgôp

Teitlau

Byw yn ôl y Llyfr, Dinamo – Cwmni Da

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?