S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Troi’r cloc yn ôl i lansio cyfres newydd ar S4C

30 Mai 2011

   Ar ddydd Llun 30 Mai, camodd ymwelwyr Eisteddfod yr Urdd, Abertawe a’r Fro nôl i’r gorffennol wrth i ddau o gyflwynwyr mwyaf cyfarwydd S4C lansio’r gyfres Y Goets Fawr ar y maes.

Cafodd coets y Post Brenhinol ei ddadorchuddio gan y gantores Shân Cothi a’r cyflwynydd Ifan Jones Evans wrth iddynt gyhoeddi manylion y gyfres fydd yn cael ei darlledu dros gyfnod o wythnos ar ddiwedd Mehefin.

Coets fawr a thimau o bedwar ceffyl oedd y ffordd orau i gludo’r post yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a bydd Y Goets Fawr yn ein trosglwyddo nôl i’r cyfnod. Bydd y tîm yn dilyn llwybr y Post Gwyddelig yn ystod yr wythnos wrth iddynt yrru drwy drefi a phentrefi Gogledd Cymru.

Ifan fydd yn teithio ar y goets yn dysgu mwy am ei hanes, yn ogystal â llwybr yr hen Bost Brenhinol o Lundain i Iwerddon. Bydd y cyflwynydd hefyd yn mwynhau gwisg, bwyd ac adloniant sy’n driw i’r cyfnod a chyfarfod llu o gyfranwyr ar hyd y daith. Hyn oll cyn iddo gyrraedd digwyddiadau arbennig gyda’r nos a chael hoe o’r siwrne hir.

Bydd Ifan yn ymuno â Shân yn nigwyddiadau’r nos mewn lleoliadau ar hyd y daith i gyflwyno digwyddiadau traddodiadol, sy’n cynnwys gemau tafarn, ffair gyflogi a noson werin. Bydd y digwyddiadau yn cael ei ddarlledu’n fyw ar S4C bob nos yn ystod yr wythnos.

Fe fydd y goets yn gadael canol dinas Llundain a chawn ymuno ag Ifan wrth i’r goets gyrraedd Cymru yn y Waun, ger Wrecsam, ar ddydd Sul 26 Mehefin.

Ar hyd y daith, bydd y tîm yn ymweld â Llangollen, Cerrigydrudion, Pentrefoelas, Capel Curig a Bangor cyn cyrraedd Caergybi ar y nos Iau (30 Mehefin). Bydd Ifan a’r criw hefyd yn ymweld ag ysgolion ar hyd y daith gan roi’r cyfle i bawb o bob oedran ail-fyw hanes y goets ar yr hen lon bost.

Yn ymuno â’r ddau yn ystod yr wythnos bydd yr hanesydd a’r gwerthwr ceir Gari Wyn a Gwyn Williams, perchennog y goets. Bydd Gari yn adrodd ar hynt a helynt y goets fawr ar hyd y canrifoedd, tra bod Gwyn yn gyfrifol am yrru’r goets ar hyd y siwrne.

Darlledir Y Goets Fawr ar S4C rhwng nos Sul 26 Mehefin a nos Iau 30 Mehefin. Gall gwylwyr ddilyn taith unigryw Ifan a chael mwy o wybodaeth am sut i fynychu’r digwyddiadau nosweithiol drwy ymweld â’r wefan, s4c.co.uk/ygoetsfawr.

Diwedd

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?